Prosiect Ymchwil Ymarferol
- Cod y Modiwl
- TC20220
- Teitl y Modiwl
- Prosiect Ymchwil Ymarferol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Roger Owen
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Roger Owen
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | 'Pitch' ymchwil cychwynnol: 10 Munud | 20% |
| Asesiad Semester | Portffolio o ddeunydd ymchwil: 2000 o eiriau | 30% |
| Asesiad Semester | Cymhwysiad ymarferol: 15 Munud | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio o ddeunydd ymchwil: 2500 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad ymarferol: 15 Munud | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Magu sgiliau ymchwil, gan ddatblygu a gweithredu strategaethau ar gyfer ymchwilio gwahanol gynyrchiadau a digwyddiadau perfformio damcaniaethol.
- 2. Adnabod cyd-destunau a cyfleoedd ymchwil priodol ar gyfer ystod o wahanol gynyrchiadau
- 3. Adlewyrchu ar effeithiolrwydd gwahanol ddulliau ymchwil, gan werthuso llwyddiannau’r dulliau hynny wrth baratoi’r aseiniadau.
- 4. Cymhwyso canfyddiadau’r broses ymchwil er mwyn gwireddu cysyniad perfformiadol damcaniaethol, gan allu mynegi’r berthynas rhwng yr ymchwil â’r cysyniad terfynol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn fydd cynnig cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu strategaethau a sgiliau ymchwilio ar gyfer gwahanol gynyrchiadau a digwyddiadau perfformio damcaniaethol. Fe fydd y rhain yn cynnwys cyrchu a phrosesu gwybodaeth a deunyddiau hanesyddol, artistig a synhwyrus, ac yn trafod y math o ymchwil a wneir o flaen llaw wrth baratoi cynhyrchiad, ac wrth ei gloriannu a’i werthuso. Rhoddir sylw hefyd i gymhwyso a threfnu’r wybodaeth fel sail ar gyfer creu perthynas â chynulleidfa.
Ar ddechrau’r semester cyntaf, bydd cydgysylltydd y modiwl yn amlinellu prosiect cynhyrchu damcaniaethol ar thema benodol, ac yn awgrymu ffynonellau gwybodaeth a dehongli i’r myfyrwyr. Disgwylir i’r myfyrwyr ddefnyddio’r ffynonellau hyn, ac ymestyn cwmpas y gwaith ymchwil yn ôl eu gallu a’u dehongliad neilltuol eu hunain o’r prosiect cynhyrchu.
Yn ystod wythnosau cynnar y modiwl ( yn amodol, ar ôl wythnos 6), gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno ‘pitch’ ymchwil sylfaenol a fydd yn cynnig amlinelliad bras o faes eu hymchwil hyd at hynny, a hefyd yn rhoi amcan o’r modd y maent yn bwriadu mynd ati i ddehongli a chymhwyso’r deunydd hwnnw yn ymarferol. Ar ddiwedd y modiwl, gofynnir iddynt lunio cyflwyniad hyd at 15 munud o hyd a fydd yn gweithredu ac arddangos eu cynhyrchiad terfynol ar ffurf étude ymarferol.
Cynnwys
Gosodir tasgau ymchwil ar derfyn pob sesiwn, a bydd disgwyl i fyfyrwyr rannu eu gwaith yn y sesiwn nesaf.
Darlith 1: Cyflwyno’r Prosiect Cynhyrchu Damcaniaethol a Datblygu Themâu’r Prosiect
Darlith 2: Ffynonellau Gwybodaeth a Darganfod Methodolegau Ymchwil
Darlith 3: Theatr a Hanesyddiaeth
Darlith 4: Theatr a’r Archif
Darlith 5: Adolygiadau a Beirniadaeth
Darlith 6: Gwleidyddiaeth a Pholisïau Cyllido
Darlith 7: Ymchwilio Cynulleidfaoedd
Darlith 8: Marchnata Perfformiadau
Darlith 9: Rhannu Casgliadau Prosesau Ymchwil
Darlith 10: Cymhwyso a Pharatoi ar gyfer y Cyflwyniad
Gall trefn a chynnwys y sesiynau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â chynnwys a themâu’r cynhyrchiad damcaniaethol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac i gynulleidfaoedd gwahanol Siarad mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol (gan gynnwys cyflwyno a thrafod) Gwrando’n effeithiol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a nodweddion personol mewn perthynas â’r cwrs /dilyniant gyrfa Cynllunio a pharatoi ar gyfer cwrs/gyrfa yn y dyfodol Marchnata sgiliau, profiad a chyflawniad yn effeithiol ar bapur ac yn bersonol Deall a defnyddio amrywiaeth o strategaethau chwilio am swyddi |
| Datrys Problemau | Dynodi problemau Dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl Datblygu dulliau meddwl creadigol wrth ddatrys problemau Gwerthuso manteision ac anfanteision datrysiadau posibl Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem |
| Gwaith Tim | Deall cysyniad dynameg grŵp Cyfrannu at sefydlu nodau’r grŵp Cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grŵp Chwarae rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp Ymarfer sgiliau trafod a pherswadio Gwerthuso gweithgareddau grŵp a’ch cyfraniad eich hun |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o’ch arddulliau dysgu eich hun, eich hoffterau ac anghenion personol a rhwystrau i ddysgu Dyfeisio a chymhwyso strategaethau dysgu a hunan-reoli realistig Dyfeisio cynllun gweithredu personol i gynnwys nodau tymor byr a thymor hir Adolygu a monitro cynnydd, gan ddiwygio’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella’r perfformiad cyffredinol |
| Rhifedd | Canfod a dehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol Ymdrin â phroblemau sy’n cynnwys rhifau |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth sy’n benodol i’r maes, a’i berthynas â byd gwaith. |
| Sgiliau ymchwil | Deall amrywiol ddulliau ymchwil Cynllunio a chynnal ymchwil Llunio adroddiadau sy’n briodol yn academaidd Gwerthuso dulliau, cynllunio a gweithdrefnau ymchwil |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cyffredin Paratoi a mewnbynnu data Rheoli systemau storio Cyflwyno gwybodaeth a data Defnyddio ebost / y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
