Datblygiad a Dysgu Plant
- Cod y Modiwl
- AD14520
- Teitl y Modiwl
- Datblygiad a Dysgu Plant
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Mrs Annabel Latham
- Dr Rhodri Evans
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 900 o eiriau | 30% |
| Asesiad Semester | Portffolio: 2100 o eiriau | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig: 900 o eiriau | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio: 2100 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth am ddatblygiad a dysgu plant.
- Deall effaith oedolion a’r amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant.
- Myfyrio ynghylch datblygiad a dysgu plant yn ymarferol, a’u cloriannu.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno i’r myfyrwyr ddulliau astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg ddatblygiadol ac mae’n ystyried y rhain yng nghyd-destun ymarferol gweithio gyda phlant ifanc. Bydd myfyrwyr yn ystyried y prif egwyddorion o ran datblygiad plant yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol penodol. Byddant yn ystyried effaith yr amgylchedd ar ddatblygiad a dysgu plant, ac yn myfyrio ynghylch pwysigrwydd monitro, adolygu a chloriannu datblygiad plant a’u harferion eu hunain. Fel rhan o’r modiwl, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
Cynnwys
Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:
Egwyddorion a Chysyniadau Allweddol
Datblygiad cyn-eni a datblygiad yr ymennydd
Damcaniaethau Gwybyddol
Damcaniaeth y Meddwl
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Effaith yr amgylchedd ar ddysgu plant
Damcaniaethau Dysgu Cymdeithasol ac Arweinyddiaeth mewn Addysg
Diwallu anghenion pob plentyn – ACE's
Monitro, adolygu a gwerthuso datblygiad ac ymarfer
Wythnosau 9 a 10 – bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau gwaith (cyfanswm o 50 awr). Trwy gydol y sesiynau seminar, bydd myfyrwyr yn cael cymorth i ddod o hyd i leoliadau gwaith, ac i wneud y trefniadau perthnasol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau a’u cloriannu |
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol |
| Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei datblygu trwy gydol y modiwl |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad |
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar |
| Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
