Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt
- Cod y Modiwl
- BG15700
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Gareth Griffith
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau: 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
| Asesiad Semester | Adroddiad labordy: 1500 o eiriau | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad labordy: 1500 o eiriau | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarfer dadansoddi data gyda chymorth llyfr nodiadau: 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau grŵp llafar.
- Datblygu dadl resymol a herio rhagdybiaethau.
- Llunio rhagdybiaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a gwneud dadleuon academaidd.
- Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
- Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
- Dehongli a defnyddio data.
- Dangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
- Cymhwyso dulliau gwyddonol i fynd i'r afael â phroblemau ymarferol, gwir fywyd.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i ymchwilio gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol drwy gyflwyniadau ysgrifenedig a llafar wrth gadw at arddull dyfynnu cywir gydag arfer academaidd dda. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol a hyder i gasglu a dadansoddi data gwyddonol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau hyn trwy ymchwiliad ymarferol mewn i sawl problem wyddonol fforensig gyda dadansoddiad manwl o ddata gwyddonol.
Cynnwys
Bydd Semester 1 yn dechrau gydag wythnos gyntaf ddwys lle bydd nifer o sesiynau labordy yn ystod y cyfnod hwnnw. Yma bydd myfyrwyr yn echdynnu ac yn dilyniannu DNA i asesu codau bar DNA. Bydd y deunydd yma gyda ffocws ar broblemau trosedd bywyd gwyllt neu fforensig entomoleg. Yng ngweddill semester 1, bydd myfyrwyr yn cyfarfod â'u tiwtor dynodedig bob yn ail wythnos i gynnal ymarferion i'w helpu i ddeall cyd-destun y gwaith labordy a'r broses casglu data. Bydd myfyrwyr hefyd yn paratoi a chyflwyno eu hasesiad prifysgol gyntaf ar ffurf traethawd wedi'i osod/marcio gan diwtor (1000-1500 o eiriau) i ymgyfarwyddo â therfynau amser a chyflwyniad asesiad a'u galluogi i dderbyn adborth cynnar.
Bydd semester 2 hefyd yn dechrau gydaG wythnos ddwys o sesiynau labordy a bydd myfyrwyr yn cwblhau llyfr nodiadau o'u canfyddiadau. Bydd yr ymarferion labordy yma yn cael eu tynnu o feysydd megis entomoleg fforensig ac ecotocsicoleg. Yng ngweddill semester 2, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â 10 sesiwn cyfrifiadur a drefnwyd yn wythnosol lle byddant yn dysgu sut i blotio ffigyrau a dadansoddi a gwerthuso data yn feirniadol gyda staff wrth law i helpu a darparu adborth ffurfiannol. Bydd data, dadansoddiadau a nodiadau yn cael eu coladu mewn llyfr nodiadau labordy caiff ei asesu, a bydd y llyfr nodiadau yma yn darparu canllawiau Arfer Labordy Da ar gyfer astudio pellach.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Bydd myfyrwyr yn cydweithio gyda help tiwtoriaid i greu cyflwyniad grŵp fel rhan o ymarfer adroddiad y labordy. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd y myfyrwyr yn casglu ac yn dadansoddi data gwyddonol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gwyddonol. |
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn meithrin cymhwysedd a hyder gyda thrin data safonol ac offer graffio gan gynnwys R. |
| Rhifedd | Mae trin data yn thema allweddol yn y modiwl hwn. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o dechnegau labordy ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
