Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg

Cod y Modiwl
BG24720
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Arwyn Edwards
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)

Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)

Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Darrell Abernethy
Dr Ruth Wonfor
Professor Hazel Davey
Dr Ifat Shah
Dr Arwyn Edwards
Professor Gareth Griffith

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg: yn ymwneud â microbau sy’n berthnasol i bolisi cyhoeddus (fesul grwp) 1000 o eiriau 25%
Asesiad Semester Adroddiad ar ymchwiliad microbiolegol: 3000 o eiriau 75%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg: 1000 o eiriau 25%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad atodol: 3000 o eiriau 75%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Gweithio'n ddiogel ac effeithiol mewn labordy microbioleg.
  2. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu ar dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.
  3. Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol a ddefnyddir gan ficrobiolegwyr proffesiynol.
  4. Cyfathrebu perthnasedd gwyddoniaeth microbau i bolisiau cyfredol a hanfodion cymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl yw arfogi’r myfyrwyr â’r sgiliau sylfaenol sy’n ddisgwyliedig oddi wrth berson graddedig sy’n gweithio mewn maes cysylltiedig â microbioleg. Yn gyntaf, bydd y myfyrwyr yn cael eu trwytho mewn sesiynau labordy a gynlluniwyd i gyflwyno’r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol, a dulliau sy’n seiliedig ar dyfiant, o ddisgrifio microbau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn dehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol. Yn drydydd, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu safbwyntiau ar y rhyngwyneb rhwng microbioleg a chymdeithas a pholisi, gan archwilio pynciau llosg ym maes gwyddor microbau i gyfleu casgliadau ymchwil i gynulleidfaoedd an-arbenigol.

Cynnwys

Bydd sesiynau seminar yn cyflwyno pynciau llosg dethol ym maes gwyddor microbau gan edrych ar eu goblygiadau i feysydd polisi a gwyddoniaeth. Bydd y rhain yn ddeinamig eu natur ac yn ymateb i ddigwyddiadau cyfoes.
Yn ystod sesiynau ymarferol, cyflwynir amrywiaeth eang o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir yn y maes ac yn y labordy, gan gynnwys samplu amgylcheddol, techneg aseptig a gwaith diogel gyda microbau, tyfiannau, technegau microsgopig a biocemegol ar gyfer adnabod microbau, arbrofion i ddarlunio ffisioleg microbau, ac yn olaf y technegau molecylaidd diweddaraf ar gyfer dadansoddi cymunedau microbau.

Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol y staff, ac yn deillio ohonynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig a thargedu gwahanol gynulleidfaoedd. Sgiliau gwrando a thrafod ar gyfer y seminarau. Cyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig i lunio'r adroddiad cryno ar y cyd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig mewn gwahanol gyd-destunau: labordy, maes a chyfathrebu gwyddoniaeth microbau er lles y cyhoedd. Ar ben hyn, bydd y myfyrwyr yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd gwyddoniaeth microbau mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.
Datrys Problemau Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion. Yn y seminarau bydd gofyn i’r myfyrwyr werthuso problemau cymhleth a llunio crynodebau effeithiol o’r pynciau dan sylw.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu'r briff. Bydd angen iddynt weithio'n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio'r gwaith cwrs hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol.
Rhifedd Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o ymrwymiadau proffesiynol a chymdeithasol gwyddonwyr microbau cyfoes.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o'r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer holl elfennau'r modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5