Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth

Cod y Modiwl
BG32600
Teitl y Modiwl
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rhys Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
BG27520 neu BR27520
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
BG36440 neu BR36440 neu BG36440 neu BR36440
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig: 1500 o eiriau 30%
Asesiad Semester Asesiad llafar: Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad llafar 10-mun yn seiliedig ar eu Adolygiad Critigol 30 Munud 70%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig: Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 1500 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Asesiad llafar: Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau o asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. 30 Munud 70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
  2. Nodi a chymhwyso technegau priodol o ddylunio astudiaeth a dadansoddi data.
  3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
  4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
  5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y cwestiynau ymchwil a’r casgliadau mewn adroddiad ysgrifenedig.
  6. Adnabod a chyflwyno themâu allweddol y prosiect ymchwil ar ffurf cyflwyniad llafar.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil ar bwnc sy'n berthnasol i'w gradd neu eu diddordebau. Gall prosiectau fod yn seiliedig ar ymarferion labordy neu waith maes, dadansoddiad cyfrifiadurol o ffynonellau data eilaidd a/neu ddadansoddiad o ddata a gafwyd o lenyddiaeth gyhoeddedig. Bydd pob prosiect, waeth beth fo'u dull, yn gofyn i fyfyrwyr weithio'n annibynnol o dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, cynnal gwaith ymchwiliol a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno hyn ar ffurf cyflwyniad. a dogfen gyhoeddi estyniad.

Cynnwys

Bydd amrywiaeth eang ym mhwyslais y prosiect ymchwil. Mae pob prosiect yn cael ei lywodraethu gan yr un rheoliadau a rhaid iddo anelu at gyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gadw cysylltiad rheolaidd â'u goruchwyliwr (tua unwaith bob pythefnos yn ystod y semester) i drafod cynnydd.
Bydd darlith ragarweiniol yn y semester 1af yn rhoi arweiniad ar sut i fynd i'r afael â'r prosiect ymchwil ac yna bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i gydlynydd y modiwl. Bydd darlithoedd dilynol yn rhoi rhagor o wybodaeth a chynhelir sesiynau holi ac ateb dewisol i roi cyngor ar agweddau penodol o'r prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod cyfarfodydd goruchwylio – asesir hyn trwy ddehongli’r rhain yn y gwaith gorffenedig. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio’r traethawd ymchwil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil.
Datrys Problemau Anogir myfyrwyr i werthuso’r prif destunau yn feirniadol ac i feddwl yn greadigol i ganfod bylchau yn yr ymchwil.
Gwaith Tim Nid yw’n elfen benodol o’r modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn llunio cynlluniau gweithredu personol i nodi eu hamcanion ac i adolygu a monitro eu cynnydd. Byddant yn diwygio’r cynlluniau gweithredu fel bo’n briodol i wella’u perfformiad yn gyffredinol.
Rhifedd Bydd myfyrwyr yn dehongli dadansoddiadau data. Mae’n bosib y bydd yna elfen o drin data o’r lenyddiaeth yn fathemategol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y sgiliau pwnc-benodol a ddatblygir yn dibynnu ar natur y pwnc a ddewiswyd.
Sgiliau ymchwil Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddeall a gwerthuso amrywiaeth o ddulliau ymchwil, a llunio adroddiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data, ac wrth baratoi’r adroddiad terfynol. Mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn ymdrin â’r data yn ystadegol drwy ddefnyddio pecynnau meddalwedd ystadegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6