Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol

Cod y Modiwl
CT10420
Teitl y Modiwl
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Nathan Gibbs
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC10420
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT20420 neu LC20420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Nathan Gibbs
Miss Demi John

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Perfformiad mewn Seminarau: 20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol: 15 Munud 40%
Asesiad Semester Dadansoddiad beirniadol o destun penodol: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad beirniadol o destun penodol: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad Seminarau: 1000 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol: Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 15 Munud 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth ymarferol sylfaenol o sgiliau ysgrifennu academaidd yn gyffredinol, a sgiliau a ffurfiau penodol i astudiaeth o’r Gyfraith a pharatoad dogfennau cyfreithiol.
  2. Arddangos cynefindra gyda darllen, ymchwilio ac astudiaeth o ddogfennau cyfreithiol, a chronfeydd data cyfreithiol gyda sylw arbennig ar ddeddfwriaeth a chyfraith achos.
  3. Defnyddio sgiliau sylfaenol o ddadansoddiad beirniadol / datrys problemau gyda chyfeiriadaeth at ddeunyddiau cyfreithiol.
  4. Arddangos sgiliau llafar/ymryson/eiriolaeth a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno dadl gyfreithiol gadarn.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr yn y sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni astudiaethau cyfreithiol.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn darparu myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyda’r sgiliau allweddol er mwyn astudio’r Gyfraith. (Gweler y canlyniadau dysgu ar gyfer rhestr llawn o’r sgiliau hyn).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Seminarau rhyngweithiol a datblygiad dadleuon cyfreithiol trwy eiriolaeth ar lafar gyda myfyrwyr eraill mewn ymryson.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith ei gynnig a sut y caiff y Gyfraith ei addysgu yn y brifysgol.
Datrys Problemau Trwy ddadansoddi ac adnabod meysydd cyfreithiol amrywiol, egwyddorion cyfreithiol, datblygiad dadleuon cyfreithiol yn seiliedig ar senario damcaniaethol.
Gwaith Tim Caiff myfyrwyr eu hannog trwy waith grŵp mewn seminar a timau ymryson i weithio gyda’u cyfoedion.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff myfyrwyr eu hannog a’u harwain i reoli eu amser astudio annibynnol.
Sgiliau pwnc penodol Paratoi dadl gyfreithiol; ysgrifennu cyfreithiol, ymchwil cyfreithiol, sgiliau eiriolaeth, dulliau cyfreithiol, darllen cyfraith achos, darllen deddfwriaeth, paratoi dadleuon ysgerbwd ar gyfer ymryson.
Sgiliau ymchwil Defnydd o gronfeydd cyfreithiol, Primo Aber, Google Scholar.
Technoleg Gwybodaeth Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol hanfodol i’w hastudiaethau ac ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4