Cyfraith Camwedd
- Cod y Modiwl
- CT11120
- Teitl y Modiwl
- Cyfraith Camwedd
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- No staff with Userid: MAC21
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC11120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT21120 neu LC21120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Nathan Gibbs
- Professor Ryszard Piotrowicz
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Asesiad Semester | Aseiniad ysgrifenedig: 1500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad llyfr-agored nas gwelir ymlaen llaw: 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad ysgrifenedig: 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 500 o eiriau | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad llyfr-agored nas gwelir ymlaen llaw: 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos dealltwriaeth fanwl o egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd, yn ogystal a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
- Nodi’n gywir yr elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu dangos eu bod yn datblygu sgiliau trwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o gwmpas cyfraith camwedd, gan nodi problemau cyfredol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
- Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr a chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a disgrifio cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.
- Llunio dadleuon perthnasol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau sylfaenol mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dangos eu bod yn datblygu sgiliau i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol mewn modd digonol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.
Cynnwys
Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, mae (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac maent wedi’u gosod ar lefel uwch.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.
Cynnwys
* Cyflwyniad i gyfraith camwedd
* Camweddau bwriadol yn erbyn y person
* Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
* Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
* Amddiffyniadau i esgeuluster
* Niwsans
* Rylands v Fletcher
* Difenwad
* Diogelu preifatrwydd
* Atebolrwydd am anifeiliaid
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol. |
| Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn eu harholiad. |
| Gwaith Tim | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grwp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
