Cyfraith Contract

Cod y Modiwl
CT13820
Teitl y Modiwl
Cyfraith Contract
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Nathan Gibbs
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC13820
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT23820 neu LC23820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr David Poyton

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (Amlddewis MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr 40%
Asesiad Semester Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Perfformiad Seminar: 20%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Arholiad Ailsefyll Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (Amlddewis MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion sylfaenol cyfraith contractau a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
  2. Nodi’r elfennau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer contract sy’n gyfreithiol-rwym.
  3. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r modd y caiff contract ei lunio a’i orfodi.
  4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o gwmpas cyfraith contractau, gan nodi problemau ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
  5. Llunio dadleuon perthnasol ar sail y gyfraith a ffeithiau o achosion perthnasol er mwyn datblygu sgiliau sylfaenol i ddarllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dangos eu bod yn datblygu sgiliau i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol mewn modd digonol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn egluro’r gofynion cyffredinol ar gyfer contract dilys. Mae hefyd yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a’r partïon i’r contract. Astudir hefyd wahanol agweddau ar delerau’r contract. Yn ogystal, mae’r modiwl yn edrych ar gyflawni a thorri contract, a’r rhwymedïau sydd ar gael.

Cynnwys

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.

Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion allweddol y gwahanol feysydd a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth

Cynnwys

Cyflwyniad i Gyfraith Contractau

Ffurfio Contract

Cydnabyddiaeth

Gorfodaeth

Cymhwystra a Chyfreithlondeb

Preifatrwydd Contract

Telerau Pendant ac Ymhlyg

Dosbarthiadau Telerau

Ymgorffori telerau

Dehongli Telerau

Cymalau Eithrio

Camliwio Contract

Camgymeriad

Dylanwad Gormodol

Llesteirio Contract

Cyflawni a Thorri Contract

Rhwymedïau

Adferiad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn yr arholiad
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4