Cyfraith Tir

Cod y Modiwl
CT24820
Teitl y Modiwl
Cyfraith Tir
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
No staff with Userid: MAC21
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
Cynghorir myfyrwyr i cymryd naill ai LC24920 Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau NEU LC34920 Equity and Trusts cyn y modiwl hwn.
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT34820 neu LC34820
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC24820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Egluro egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir.
  2. Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.
  3. Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a mynd i’r afael â thrafodaethau a gwahanol safbwyntiau ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.
  4. Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.
  5. Gallu cyflwyno canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.
  6. Deall egwyddorion sefydledig cyfraith tir, a’r modd y mae’r egwyddorion hynny wedi datblygu.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.

Cynnwys

1. Beth yw tir?
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau
8 Tir cofrestredig ac anhofrestredig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith.
Datrys Problemau Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar, a’u trafod.
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion.
Sgiliau ymchwil Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.
Technoleg Gwybodaeth Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5