Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol

Cod y Modiwl
CT33020
Teitl y Modiwl
Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu CT32220 neu LC12220 neu LC22220 neu LC32220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT23020 neu LC23020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC33020
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Asesiad Naratif Myfyriol: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Arholiad a gwelir ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Naratif Myfyriol: Ailsefyll yr elfen a fethwyd 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad a gwelir ymlaen llaw: 2 Awr Ailsefyll yr elfen a fethwyd 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth feirniadol gadarn o effaith newid cymdeithasol ar faterion sy’n ymwneud a throsedd, rheoli trosedd a chosb.
  2. Dangos adnabyddiaeth a dealltwriaeth am faterion hanesyddol a chymharol yn natblygiad polisïau, prosesau a sefydliadau cyfiawnder troseddol.
  3. Asesu gwerth ymagweddau hanesyddiaethol wrth ddatblygu dealltwriaeth o faterion cyfoes sy’n ymwneud â throsedd a chyfiawnder troseddol.
  4. Adnabod ac egluro gwahanol ffyrdd y trawsnewidiwyd systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli’r effaith a gafodd y trawsnewidiadau hyn ar bolisïau, arferion a dadleuon cyfoes.
  5. Adnabod ac ystyried yn feirniadol gyfyngiadau’r ffynonellau cynradd sydd ar gael ac sy’n ymwneud â’r gwahanol gyfnodau hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.
  6. Dangos gwybodaeth gadarn o’r egwyddorion sy’n sail i ymagweddau cyfiawnder troseddol yn ystod pob un o’r cyfnod hanesyddol a drafodir yn ystod y modiwl.

Disgrifiad cryno

Nid yw’r modiwl hwn yn ceisio darparu disgrifiad cynhwysfawr o ddatblygiadau yn y drefn cyfraith trosedd neu’r drefn gosbi. Mae’n ceisio yn hytrach fynd i’r afael ag ystod o gwestiynau sy’n parhau’n berthnasol ar draws amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol: Pa fathau o ymddygiad sy’n cael eu hystyried yn droseddol, a pham? Pa ddulliau cosb a ystyrir yn briodol, a pham? Pa ffactorau sy’n achosi newid i’r dulliau cosb? Sut mae buddiannau dioddefwr y drosedd a buddiannau’r gymuned ehangach yn cael eu cysoni? Bydd cwestiynau eraill yn codi a fydd yn hysbysu ein gallu i ateb y cwestiynau hyn: Sut y gwyddwn faint o droseddu a gafwyd yn y gorffennol? Sut y gwyddwn beth oedd barn pobl amdano? Ymhle gallwn chwilio am wybodaeth a beth yw cyfyngiadau’r wybodaeth honno?

Caiff myfyrwyr gyfle i astudio amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol ar drosedd a chosb. Anogir myfyrwyr i ddatblygu gwell ymwybyddiaeth o barhad ac amrywiadau systemau cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag ymatebion eraill y gymdeithas i droseddu a newidiadau cymdeithasol.

Cynnwys

Bydd cyfres y darlithoedd a’r seminarau yn ymchwilio i amrywiaeth o themâu a phynciau troseddegol, cyfiawnder troseddol a hanesyddiaethol drwy lygaid cyfres o gyfnodau hanesyddol:

Trosedd a Chosb yn yr Henfyd
Trosedd a Chosb yn yr Oesoedd Canol
Trosedd a Chosb yn y Cyfnod Modern Cynnar
Trosedd a Chosb yn Oes Fictoria

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Anogir cyfathrebu llafar mewn trafodaethau seminar, gwaith grwp a wneir yn y gyfres seminarau, ac yn ystod yr ymarfer gwaith maes. Datblygir ac asesu cyfathrebu ysgrifenedig yn y gwaith cwrs
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd astudio’n annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu annibyniaeth yn nysgu’r myfyriwr. Bydd gwaith grwp yn arfogi’r myfyrwyr a sgiliau cyfathrebu i ymgysylltu ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi a’r ymgysylltu angenrheidiol a’r cwrs ar gyfer yr aseiniad myfyriol yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar ac i gymryd rhan weithredol yn y tasgau.
Datrys Problemau Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ystyried ystod eang o bynciau hanesyddol sy’n ymwneud a throsedd, cosb a phrosesau cyfiawnder troseddol.
Gwaith Tim Bydd gwaith mewn grwpiau bychain yn y seminarau yn meithrin gwaith tim ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog meddwl beirniadol ac ochrol myfyrwyr. Bydd y tasgau a’r ymarferion a osodir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’r defnydd ohonynt mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar ddysgu ac addysgu cynnwys y modiwl fesul cam.
Rhifedd Trwy ddadansoddi canfyddiadau ymchwil yn feirniadol bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o sut mae theori ac ymarfer yn uno mewn sefyllfa hanesyddol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau myfyriol a hefyd yn cael eu hannog yn weithredol i feddwl yn feirniadol am berthnasedd tueddiadau hanesyddol mewn trosedd a chosb i’r gymdeithas fodern a phrosesau cyfiawnder troseddol.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil drwy gael mynediad at, a dadansoddi llenyddiaeth ar drosedd a chosb er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir.
Technoleg Gwybodaeth Bydd chwilio drwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar-lein yn ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6