Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)

Cod y Modiwl
FG15510
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rachel Cross
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion

Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc, Gwyddor y Gofod a Roboteg neu Ffiseg Fathemategol a Damcaniaethol
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH15720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FG15720
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH15510
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH15030
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Rachel Cross

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig: Caiff myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac yn gofyn am nifer gwahanol o eiriau. Bydd dyddiadur nodweddiadol oddeutu 200 gair yr arbrawf. 70%
Asesiad Semester Adroddiad Labordy: 1000 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
  2. Cynhyrchu adroddiad gwyddonol wedi ei ysgrifennu’n glir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
  3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
  4. Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
  5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.

Cynnwys

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad.

Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yn cwmpasu meysydd rhagarweiniol allweddol mewn ffiseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Gwaith Tim Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau.
Rhifedd Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiad labordy.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4