Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd)
- Cod y Modiwl
- FG15700
- Teitl y Modiwl
- Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd)
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Rachel Cross
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH15510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
FG15510
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PH15720
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Rachel Cross
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiadau Labordy Ysgrifenedig: (2 x 1000 gair) | 30% |
| Asesiad Semester | Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig.: Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf. | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol: | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
- Ysgrifennu adroddiad gwyddonol clir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.
- Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
- Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.
- Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.
Disgrifiad cryno
Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu'r technegau sylfaenol o gynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi sylw i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.
Mae modiwlau arbrofol y cynlluniau gradd wedi eu llunio fel bo myfyrwyr yn datblygu o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl i gyflawni arbrofion syml ar y dechrau, i ymchwilio testun a datblygu eu harbrofion a'u hymchwilio eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion i waith labordy mewn meysydd allweddol o'r gwyddorau ffisegol, sy'n gallu cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am ddau o'r arbrofion mewn adroddiadau ffurfiol, gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testunau. Yn ychwanegol at hyn, yn yr ail semester bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o recordio a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol.
Cynnwys
• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Mae'r arbrofion yn seiliedig ar bynciau craidd yn y gwyddorau ffisegol, yn cwmpasu meysydd allweddol drwy ymchwilio ymarferol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion. Bydd yr myfyrwyr yn gweithio mewn parau a grwpiau bychain, gan drafod eu darganfyddiadau arbrofol. |
| Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion. |
| Gwaith Tim | Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrywr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrfennu nodiadau. |
| Rhifedd | Yn ei hanfod, mae'r gwyddorau ffisegol yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg a mesuriadau arbrofol. Mae defnyddio rhifau yn ran ganolog o'r modiwl yma. |
| Sgiliau pwnc penodol | Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol. |
| Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
