Trydan a Magnetedd

Cod y Modiwl
FG22510
Teitl y Modiwl
Trydan a Magnetedd
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Owen Roberts
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FG26020 neu PM26020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PH22510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Xing Li
Dr Owen Roberts

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester 2x Daflen enghreifftiau: 30%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 70%
Asesiad Ailsefyll 2x Daflen enghreifftiau: 30%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Trafod y cysyniadau sy'n sail i ddeddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd.
  2. Dwyn i gof, dangos dealltwriaeth a chymhwyso hafaliadau Maxwell o ddeddfau empirig electromagnetedd.
  3. Egluro effeithiau deunydd ar feysydd trydan a magnetig a'r amodau'r ffin ar gyfer meysydd o'r fath.
  4. Adnabod a defnyddio calcwlws fector a thechnegau mathemategol eraill i ddadansoddi a mynegi senarios mewn trydan a magnetedd.
  5. Datrys enghreifftiau mewn trydan a magnetedd a dehongli'r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn ystyried deddfau ffisegol mewn trydan a magnetedd. Mae un rhan o'r modiwl yn canolbwyntio ar drydan ac mae'n cynnwys electrostateg a deuelectrynnau gyda'r rhan arall yn cwmpasu meysydd magnetig, deunydd magnetig ac anwythiad electromagnetig. Trafodir amodau ffin electromagnetig ar ryngwyneb rhwng dau ddeunydd syml. Caiff y deddfau ffisegol eu mynegi yn nhermau gweithredyddion differol calcwlws fector a'u cyflwyno yn gyfunol fel hafaliadau Maxwell.

Cynnwys

ATGOFFA AM GALCWLWS FECTOR
- grad, div, curl.
- theorem dargyfeiriad, theorem Stokes.
- unfathiannau fector.

ELECTROSTATEG
- gwefr a maes trydanol.
- deddf Gauss.
- egni a photensial electrostatig.
- cynhwysyddion, deuelectrynnau, polareiddiad, maes dadleoliad trydanol, deddf Gauss ar gyfer maes dadleoliad trydan.
- amodau'r ffin ar gyfer D ac E.
- hafaliad Poisson.
- cyfrifiadau mewn electrostateg.

MEYSYDD MAGNETIG
- grym Lorentz.
- deupol magnetig.
- deddf Ampere, deddf Biot-Savart, potensial fector magnetig.
- magneteiddiad, dwysedd magnetig.
- amodau'r ffin ar gyfer B a H.
- hysteresis magnetig.

ANWYTHIAD ELECTROMAGNETIG
- deddf Faraday, deddf Lenz.
- anwythiad.
- egni magnetig.

HAFALIADAU MAXWELL
- hafaliad didoriant.
- cerrynt dadleoliad.
- hafaliadau Maxwell a datrysiad ton electromagnetig blan.
- fector Poynting.
- polareiddiad tonnau, ymddygiad ar ryngwynebau plan.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig i daflenni enghreifftiau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn ymdrin â phynciau ffiseg craidd sy'n hanfodol ar gyfer portffolio academaidd myfyriwr sy'n bwriadu gweithio yn y maes.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl. Caiff ei asesu drwy'r taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim Ddim yn berthnasol – angen dileu yr eitem ar gyfer y daflen wybodaeth modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Lluniwyd esiamplau ac adborth er mwyn annog dysgu hunan- gyfeiriol a gwella perfformiad.
Rhifedd Mae problemau rhifyddol yn y taflenni enghreifftiau ac yn yr arholiadau ffurfiol.
Sgiliau pwnc penodol Mae trydan a magnetedd yn bynciau craidd mewn Ffiseg.
Sgiliau ymchwil Mae darllen dan gyfarwyddyd yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio cefndir ar gyfer y modiwl. Bydd problemau hefyd yn cael eu gosod lle mae angen ymchwilio yn y llyfrgell ac ar y rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau yn y modiwl drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5