Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HC23420
Teitl y Modiwl
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad amser rhydd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad amser rhydd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos sylfaen gadarn o wybodaeth o’r deunydd eilaidd a’r dadleuon sy’n parhau o ran astudio trosedd a therfysg yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif diweddar a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dangos gallu i fyfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd sy’n berthnasol I thema trosedd a phrotest.

Dangos gallu i gasglu, trefnu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol perthnasol i’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynhyrchu dadleuon ar lafar ac ar bapur.

Dangos gallu i weithio’n annibynol.

Cynhyrchu gwaith mewn dull proffesiynol a dangos sgiliau addas ar gyfer astudio hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng y Diwygiad Methodistaidd a Brad y Llyfrau Gleision. Awgrymwyd bod y cyntaf yn amcanu at greu ‘cenedl o bobl ddiflas’, ac yn sgil yr ail ceisiwyd creu’r ddelwedd o Gymru fel ‘gwlad y menyg gwynion’, heb dor-cyfraith yn amharu arni. Awgryma’r cyhuddiadau yn y Llyfrau Gleision ynglŷn ag anfoesoldeb yn y Gymru Anghydfurffiol na lwyddodd y Methodistiaid yn eu nod. Bwriad y modiwl yw archwilio agweddau’r boblogaeth yn gyffredinol at drosedd a chamymddwyn, a’r rhesymau dros derfysgoedd y cyfnod. Cyflwynir myfyrwyr i ddadleuon hanesyddol yn ymwneud â’r themâu hyn, gan gynnwys y drafodaeth ar lefelau trais yn y ddeunawfed ganrif a’r graddau yr oedd protestiadau fel terfysgoedd bwyd yn codi allan o syniadau am gyfiawnder cymdeithasol ac economi foesol y dorf.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i ymchwilio i themâu trosedd, terfysg ac anfodlrwydd yng Nghymru yn y cyfnod hwn o fewn cyd-destun y llenyddiaeth eilaidd gyfoethog sy’n perthyn i’r maes. Cyflwynir myfyrwyr i rai o’r dadleuon a phroblemau sy’n codi ar gyfer haneswyr sy’n ymchwilio i’r meysydd hyn. Bydd y modiwl yn ehangu’r dewis sydd ar gael i fyfyrwyr hanes Cymru ac i fyfyrwyr yn gyffredinol sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynnwys

1. Rhagarweiniad
2. Tadolaeth, moesoldeb ac arweinwyr cymdeithas
3. Crefydd a safonau moesol
4. Y ‘Côd Gwaedlyd’ a rheolaeth gymdeithasol
5. Cadw trefn
6. Trosedd a chosb
7. Cosb heblaw’r gosb eithaf
8. ‘Troseddau cymdeithasol’: trosedd fel protest?
9. Cymdeithas dreisgar?: byw, marw a chwarae
10. Cyfiawnder, moesoldeb a’r gymuned
11. Protest a therfysg yn y ddeunawfed ganrif
12. Y 1790au: trobwynt cythryblus?
13. Anfodlonrwydd gwledig hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
14. Anfodlonrwydd diwydiannol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
15. Y 1830au a Therfysg Merthyr 1831
16. Siartiaeth a Chasnewydd 1839
17. ‘Ac a fendithiasant Rebeca’?
18. ‘Brad y Llyfrau Gleision’

Seminarau:
1. Y bonedd, awdurdod a’r ‘côd gwaedlyd’.
2. Trosedd, cosb a chymdeithas: troseddau marwol.
3. Trosedd, cosb a chymdeithas: dienyddio cyhoeddus
4. Traddodiad terfysg yn y ddeunawfed ganrif.
5. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd gwledig a Beca
6. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd diwydiannol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth am ffynonellau a llenyddiaeth hanesyddol yn ymwneud ag astudio trosedd a therfysg, gan gynnwys y heriau arbennig sy’n wynebu haneswyr wrth ddefnyddio ystadegau am drosedd.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5