Gwybodaeth Modiwlau
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Exam | 2 Hours | 50% |
Semester Assessment | Datblygu safle wiki mewn grwp (1,500 gair) | 35% |
Semester Assessment | Aseiniad Adfyfyriol (1,000 gair) | 15% |
Supplementary Exam | 2 Hours | 50% |
Supplementary Assessment | Safle Wiki | 35% |
Supplementary Assessment | Aseiniad Adfyfyriol (1,000 gair) | 15% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Esbonio rôl cyrchfannau ac atyniadau yn y system dwristiaeth.
2. Trafod yr hyn sy’n gwneud cyrchfannau ac atyniadau yn gystadleuol.
3. Asesu sail rhesymegol, cwmpas a dulliau rheoli cyrchfannau ac atyniadau.
4. Nodi a chloriannu’r heriau allweddol wrth reoli cyrchfannau ac atyniadau.
5. Gwerthuso amrywiaeth o astudiaethau achos cyfoes ar reoli cyrchfannau ac atyniadau i ymwelwyr.
Content
Mathau o gyrchfannau a’r hyn sy’n eu gwneud yn gystadleuol. Adnoddau ac atyniadau. Daearyddiaeth y galw am dwristiaeth ac adnoddau, hinsawdd a thrafnidiaeth.
Grymoedd sy’n dylanwadu ar ba mor gystadleuol yw cyrchfan. Sut i fod yn gystadleuol mewn marchnad ddeinamig. Risgiau ac argyfyngau. Sut i adnabod argyfyngau, eu rheoli, ac adfer yn eu sgil.
Delweddau cyrchfannau. Sut i’w ffurfio, dylanwadau a’u swyddogaethau. Technegau ar gyfer asesu delweddau. Rheoli delwedd cyrchfannau.
Swyddogaeth a natur atyniadau i ymwelwyr. Datblygu atyniadau i ymwelwyr. Economeg datblygu parciau thema. Problemau wrth ddatblygu atyniadau i ymwelwyr mewn ardaloedd ymylol. Arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol. Materion yn ymwneud â dilysrwydd.
Rheoli atyniadau i ymwelwyr. Rheoli effaith ymwelwyr. Rheoli tymoroldeb yn strategol. Heriau i atyniadau sy’n seiliedig ar grefydd. Materion yn ymwneud â rheoli adnoddau dynol.
Marchnata atyniadau i ymwelwyr. Heriau a chyfleoedd i atyniadau sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Materion brandio. Strategaethau marchnata cystadleuol a chydweithredol.
Brief description
Amcanion
Mae’r cyrchfan twristiaiaeth yn elfen hanfodol o’r system twristiaeth, tra bod atyniadau yn adlewyrchu’r prif yrrwr o ran galw am gyrchfannau: heb atyniadau ni fyddai cyrchfannau. Ond, mae cyrchfannau ac atyniadau wedi cael eu hesgeuluso fel ffocws dadansoddi mewn llenyddiaeth.
Pwrpas y modiwl yma yw i ddatblygu dealltwriaeth o rôl cyrchfannau ac atyniadau o safbwynt y cynhyrchu a’r defnydd o dwristiaeth, yn ogystal ag archwilio sut y caiff cyrchfannau ac atyniadau eu rheoli a’u marchnata er mwyn adnabod yr ystod o elfennau sy’n dylanwadu ar gystadleuaeth y cyrchfannau a’r atyniadau ac i archwilio strategaethau i reoli’r dylanwadau hynny.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu cynnwys ar-lein effeithiol ac yna cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr yn yr arholiadau. |
Improving own Learning and Performance | |
Information Technology | Bydd angen i’r myfyrwyr ddefnyddio TG wrth gwblhau eu prosiectau - sef creu prosiect wiki ar y cyd yn achos y modiwl hwn. Caiff hyn ei asesu a rhoddir adborth hefyd. |
Personal Development and Career planning | Bydd y modiwl yn cynnwys dau ymweliad safle, a fydd yn rhoi cipolwg ar gyrfaoedd yn y rhan yma o’r diwydiant twristiaeth. |
Problem solving | |
Research skills | Bydd gofyn i’r myfyrwyr gynllunio a gwneud ymchwil ar gyfer eu cyflwyniad grŵp, gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac electronig. Caiff hyn ei asesu yn y cyflwyniad a rhoddir adborth i’r myfyrwyr. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar aseiniad, a fydd yn arwain at brosiect grŵp a chaiff ei asesu. Wrth wneud hyn, bydd angen iddynt ddangos sgiliau effeithiol wrth weithio mewn tîm. Bydd elfen o farc y prosiect yn adlewyrchu’r elfen gwaith tîm a rhoddir adborth ar hyn i’r myfyrwyr. |
Notes
This module is at CQFW Level 6