Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
MT10110
Teitl y Modiwl
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Mathemateg Safon Uwch (neu gyfartal).
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  Arholiad Ysgrifenedig 2 Awr  80%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad semester  (Arholiad Ysgrifenedig) 2 Awr  80%
Asesiad Ailsefyll 1 Awr   Asesiad atodol  Arholiad ysgrifenedig (cydamserol gyda'r arholiad atodol) 1 Awr  20%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs  Marc yn seiliedig ar ymrwymiad, cyfranogiad ac aseiniadau a gyflwynir.  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig;

Darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog;

Mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog;

Mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin;

Adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad;

Mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau;

Defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg;

Mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig;

Mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector;

Mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector;

Mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau;

Mesur yr ongl rhwng dau blan a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlan;

Datrys problemau elfennol mewn cinemateg.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.

Nod

I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.

Cynnwys

1. GEOMETREG GYFESURYNNOL YN Y PLAN REAL: Y linell syth. Loci. Conigau - ffurfau penodol a'r ffurf cyffredinol. Adnabod canol, foci ac echelin hwyaf
a'r echelin leiaf. Achosion o ddirwyiad. Hafaliad gyffredinol y tangiad. Teuleuoedd o linellau a conigau. Cromlinau plan parametrig. Tangiadau a'r defnydd o ddeilliadau. Cyfesurynnau pegynlinol.
2. CYFLWYNIAD I DDULLIAU FECTOR: Fectorau uned. Lluosymiau sgalar a fector, onglau. Fectorau safle. Fectorau annibynnol llinol. Hafaliadau fector o linellau a phlanau. Cyflwyniad i ginemateg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4