Dadansoddiad Real

Cod y Modiwl
MT20110
Teitl y Modiwl
Dadansoddiad Real
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Robert Douglas
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA11110 neu MT11110
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA20110
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Gwion Evans
Dr Robert Douglas

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Arholiad Semester 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%

Canlyniadau Dysgu

  1. Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr: fod yn gallu, 1. pennu cyfresi Fourier mewn ffwythiannau integradwy a chyfnod mympwyol; 2. cymhwyso technegau cyfres Fourier, i symiant cyfresi anfeidrol; 3. disgrifio syniadau dilyniant a differadwyedd ar gyfer ffwythiannau sydd a mwy nag un newidyn; 4. penderfynnu os yw ffwythiannau sydd a dau neu fwy o newidynau yn barhaol a differadwy 5. canfod os yw cyfresi anfeidrol yn gydgyfeiriol drwy ddefnyddio profion cydgyfeiriant amrywiol; 6. disgrifio'r syniad o gydgyfeiriant unffurf mewn cyfres o ffythiannau; 7. defnyddio Weierstrass M-test i brofi cydgyfeiriant unffurf cyfresi anfeidrol mewn ffwythiannau; 8. penderfynu radiws cydgyfeiriant cyfresi pwer; 9. defnyddio theorem cydgyfeiriant safonol yngl'n a chyfresi pwer.

Disgrifiad cryno

Mae astudiaeth real o bwysigrwydd hanfodol i unryw fyfyriwr sy'n gobeithio mynd ymhellach na'r driniaeth arferol o fformwlau i ddatrys problemau safonol. Mae'r gallu i feddwl yn ddiddwythol ac i astudio enghreifftiau cymhleth yn angenrheidiol i addasu ac ymestyn cysyniadau i gyd-destynau newydd. Mae'r modiwl wedi'i anelu i ateb y gofynion yma.

Nod

Yn y modiwl yma, mae'r technegau dadansoddol, a'u datblygwyd yn MT11110, yn cael eu ymestyn i sefyllfa fwy cyffredin. Fe fydd y modiwl yn darparu'r sylfaen i ddadansoddiad glasurol mewn gosodiad cadarn, gyda phwyslais ar gymhwyso.

Cynnwys

1. CYFRES FOURIER: Theorem Cydgyfeiriant (mynegiad yn unig), cymhwysiad Cyfresi Fourier i grynhoi cyfresi anfeidrol.
2. CALCWLWS AML NEWIDYN: Dilyniadau, differadwyedd, deilliadau rhannol, graddau uwch a deilliadau rhannol cymysg.
3. THEORI CYFRES ANFEIDROL: Profi cydgyfeiriant, yn cynnwys prawf cymharol, prawf ratio, prawf integral. Cyfresi P'er, radiws cydgyfeiriant, cydgyfeiriant absoliwt. Egwyddor Cauchy o gydgyfeiriant ar gyfer cyfresi.
4. CYDGYFEIRIANT UNFFURF CYFRES O FFWYTHIANNAU: Cydgyfeiriant unffurf o gyfresi, Weierstrass M-test, Egwyddor Cauchy ar gyfer cydgyfeiriant unffurf.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu.
Cydlynu ag erail Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5