Algebra Llinol

Cod y Modiwl
MT21410
Teitl y Modiwl
Algebra Llinol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Robert Douglas
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MP11010 neu MT11010
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA21410
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Gwion Evans
Dr Robert Douglas

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Arholiad Semester 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%

Canlyniadau Dysgu

  1. Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr: fod yn gallu, 1. darganfod os yw strwythur algebraig yn ofodau fector; 2. cymhwyso meini prawf ar gyfer isofodau o ofod fector; 3. darganfod meysydd ar gyfer gofodau fector; 4. profi a chymhwyso cynigion yn theori gofodau fector; 5. disgrifio'r cysyniad o drawsffurfiad llinol; 6. cyfrifo matricsau sy'n cynrychioli trawsffurfiadau llinol; 7. darganfod ranc a diddymdra trawsffurfiadau llinol a matricsau; 8. gwneud cyfrifiadau mewn gofodau lluoswm mewnol; 9. gwneud diagnosis ar fatricsau, yn enwedig matricsau cymesur.

Disgrifiad cryno

n y modiwl yma mae'r cysyniad o ofod fector yn cael ei gyflwyno. Mae hwn yn datblygu syniadau a gyflwynwyd yn y cwrs yn y flwyddyn gyntaf. Yn arwynebol gellir gweld ei bod yn bosib uno gwahanol broblemau mewn mathemateg. Er enghraifft, mae datrys systemau o hafaliadau llinol a hafaliadau differol llinol fwy neu lai yr un broses ac y gellir eu delio'n gydamserol yn y cyd-destun yma.

Nod

I ddatblygu technegau theori matrics sydd wedi'u defnyddio yng nghyrsiau blwyddyn gyntaf mewn modd haniaethol. I gyflwyno'r cysyniadau o ofodau fector a mapio rhwng gofodau fector. I ddatblygu ymhellach dechnegau ar gyfer cyfrifo mewn gofodau fector ac i ddangos taw dyma'r fframwaith gywir i ystyried problemau llinol mewn modd unedig.

Cynnwys

1. GOFODAU FECTOR: diffiniad ac enghreifftiau, is-ofodau, setiau pontio, annibyniaeth llinol, maes a dimensiynau.
2. TRAWSFFURFIADAU LLINOL: Diffiniad ac enghreifftiau, matrics trawsffurfiad llinol, newid maes. Cnewyllyn a delwedd trawsffurfiad llinol, ranc a diddymdra. Y theorem dimensiwn.
3. LLUOSWM MEWNOL GOFODAU: Diffiniad ac enghreifftiau. Orthogonoledd a'r broses orthogonoledd Gram-Schmidt.
4. CROESLINIO MATRICSAU: Gwerth-eigen ac fectorau-eigen, hafaliad nodweddiadol. Croeslinio matricsau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu.
Cydlynu ag erail Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau.
Sgiliau Pwnc-benodol Mae'r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg yn ogystal â chymwysiadau nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5