Dadansoddiad Cymhlyg

Cod y Modiwl
MT21510
Teitl y Modiwl
Dadansoddiad Cymhlyg
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Adil Mughal
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA11110 neu MT11110
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA21510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Adil Mughal
Dr Tudur Davies

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Arholiad Semester 2 Awr Arholiad ysgrifenedig 100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr Arholiad ysgrifenedig 100%

Canlyniadau Dysgu

  1. Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru: 1. cyfrifo’n effeithiol gyda rhifau cymhlyg; 2. nodi a defnyddio hafaliadau Cauchy-Riemann; 3. penderfynu a yw ffwythiant gwerth-cymhlyg yn ddadansoddol; 4 enrhifo integrynnau amlinol; 5 nodi theorem Cauchy a disgrifio’i ganlyniadau; 6 enrhifo integrynnau gan ddefnyddio fformiwla integru Cauchy; 7. ehangu ffwythiannau dadansoddol fel cyfres Taylor a chyfres Laurent; 8. enrhifo integrynnau real gan ddefnyddio’r theori gweddillion.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ffwythiannau sy’n cymryd gwerthoedd cymhlyg yw dadansoddiad cymhlyg. Ar yr un llaw mae’n bwnc ffrwythlon mewn mathemateg bur sy’n arddangos llawer o ganlyniadau cain ac annisgwyl, ac ar y llaw arall gellir cymhwyso’r theori mewn sawl cangen o fathemateg a pheirianneg. Mae rôl pwysig dadansoddiad cymhlyg mewn mathemateg gymhwysol, er enghraifft, yn rhannol ddyledus i’r defnydd o’r theori gweddillion mewn enrhifo integrynnau real a’r cymhwysiad o fapiadau cydffurf yn hydrodynameg a phroblemau mewn theori potensial.

Cynnwys

1. Adolygu priodweddau elfennol rhifau cymhlyg.
2. Hafaliadau Cauchy-Riemann. Ffwythiannau dadansoddol. Amodau angenrheidiol a digonol ar gyfer ffwythiant i fod yn ddadansoddol.
3. Integru amlinol. Theorem sylfaenol integru.
4. Theorem Cauchy. Fformiwla integru Cauchy, yn cynnwys y fersiwn cyffredinol.
5. Cyfres Taylor.
6. Cyfres Laurent.
7. Theori gweddillion.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Na
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ychwanegiad defnyddiol i bortffolio mathemategol myfyriwr
Datrys Problemau Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg.
Gwaith Tim Na
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dod yn gyfarwydd a phwnc newydd mewn Mathemateg
Rhifedd Cynhenid mewn unrhyw fodiwl mathemateg.
Sgiliau ymchwil Na
Technoleg Gwybodaeth Na

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5