Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol

Cod y Modiwl
RG18040
Teitl y Modiwl
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Cennydd Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Scott Tompsett
Dr Irene Griffiths
Dr Ruth Wonfor
Dr Cennydd Jones
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad Cnydau: 1500 o eiriau 20%
Asesiad Semester Adnabod Cnydau Porthiant: 2 Awr O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Asesiad Semester Adroddiad priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Arholiad Semester Arholiad aml-ddewis: 1.5 Awr 1.5 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Adnabod Cnydau Porthiant: 2 Awr O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Cnydau: 1500 o eiriau 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad aml-ddewis: 1.5 Awr 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
  2. Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
  3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
  4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
  5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
  6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
  7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Disgrifiad cryno

Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.

Nod

1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
2. Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Cynnwys

Rhennir y modiwl hwn yn sawl adran i gwmpasu gwahanol agweddau ar reoli tir amaethyddol.
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn.
Gallu digidol Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn.
Synnwyr byd go iawn Mae'r sgil o adnabod cnydau porthiant yn hynod o drosglwyddiadwy ar gyfer graddedigion mewn amaethyddiaeth, cadwraeth ac ymgynhori.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4