Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm

Cod y Modiwl
RG18400
Teitl y Modiwl
Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Hefin Williams
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
RD18420 neu RD18420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Scott Tompsett
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Asesiad Amser Rheoledig - Diogelwch Fferm: 50 Minutes 50%
Asesiad Semester Prawf diwedd modiwl: 50 Munud 50%
Asesiad Ailsefyll Prawf diwedd modiwl: 50 Munud 50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Amser Rheoledig - Diogelwch Fferm: 50 Minutes 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o rôl a datblygiad technolegau amaethyddol allweddol
  2. Nodi a gwerthuso rôl Ffermio Manwl Gywir ac egluro'r egwyddorion allweddol dan sylw
  3. Dangos dealltwriaeth o egwyddorion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut y gellir eu cymhwyso i reoli systemau amaethyddol yn fwy effeithlon
  4. Nodi'r mesurau iechyd a diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac arfer gorau ar ffermydd
  5. Arddangos y gallu i gynllunio ar gyfer defnydd diogel ac effeithiol o dechnoleg ar ffermydd

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn disgrifio’r egwyddorion a’r arferion sy’n sail i’r ystod eang o dechnolegau sy’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan y diwydiant amaethyddol. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu gallu i gynllunio ac ymgymryd â sgiliau fferm technegol mewn modd diogel sy'n gyson ag arferion gorau.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn archwilio:
• Datblygiad Peiriannau ac Offer Fferm
• Technoleg Ffermio Fanwl Gywir
• Defnydd o Adnoddau ac Ynni ar Ffermydd
• Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a Mapio Tir Amaethyddol
Bydd y modiwl hefyd yn cynnig y cyfle i ennill profiad o gynllunio gwaith fferm yn ddiogel ac effeithiol ac i ymgymryd â sgil fferm technegol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio technoleg fferm
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dehongli gwahanol senarios diogelwch fferm i nodi'r camau gweithredu priodol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4