Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm
- Cod y Modiwl
- RG18420
- Teitl y Modiwl
- Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Hefin Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
RD18420 neu RD18420
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Asesiad Amser Rheoledig - Diogelwch Fferm: 50 Minutes | 50% |
| Asesiad Semester | Prawf diwedd modiwl: 50 Munud | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf diwedd modiwl: 50 Munud | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad Amser Rheoledig - Diogelwch Fferm: 50 Minutes | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos gwybodaeth mewn cof o rôl a datblygiad technolegau amaethyddol allweddol
- Nodi a gwerthuso rôl Ffermio Manwl Gywir ac egluro'r egwyddorion allweddol dan sylw
- Dangos dealltwriaeth o egwyddorion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut y gellir eu cymhwyso i reoli systemau amaethyddol yn fwy effeithlon
- Nodi'r mesurau iechyd a diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac arfer gorau ar ffermydd
- Arddangos y gallu i gynllunio ar gyfer defnydd diogel ac effeithiol o dechnoleg ar ffermydd
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn disgrifio’r egwyddorion a’r arferion sy’n sail i’r ystod eang o dechnolegau sy’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan y diwydiant amaethyddol. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu gallu i gynllunio ac ymgymryd â sgiliau fferm technegol mewn modd diogel sy'n gyson ag arferion gorau.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn archwilio:
• Datblygiad Peiriannau ac Offer Fferm
• Technoleg Ffermio Fanwl Gywir
• Defnydd o Adnoddau ac Ynni ar Ffermydd
• Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a Mapio Tir Amaethyddol
Bydd y modiwl hefyd yn cynnig y cyfle i ennill profiad o gynllunio gwaith fferm yn ddiogel ac effeithiol ac i ymgymryd â sgil fferm technegol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio technoleg fferm |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dehongli gwahanol senarios diogelwch fferm i nodi'r camau gweithredu priodol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
