Dogfen Greadigol

Cod y Modiwl
TC25620
Teitl y Modiwl
Dogfen Greadigol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Elin Morse
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FM11420 neu FM11520
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FM26520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennaeth Cefnogol: 40%
Asesiad Semester Prosiect Fideo: 60%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Fideo: 60%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ysgrifenedig a Dogfennaeth Cefnogol: 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffilmiau Dogfen, a'r gallu i'w creu.
  2. Adnabod a diffinio'r canlyniadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchu ffilm ddogfen. Bydd y canlyniadau yn canolbwyntio ar : adrodd straeon, arddulliau gweledol/golygu a thechnegau cynhyrchu priodol.
  3. Dangos cymhwystra technegol a logistaidd ar draws cynhyrchu camera sengl.
  4. Gwerthuso ac asesu gwaith cynhyrchu, dangos gallu i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl ymarferol hwn yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynhyrchu dogfen creadigol hollbwysig ac mae’n cynnig cyflwyniad hanfodol i’r genre wrth baratoi ar gyfer y modiwl trydedd flwyddyn. Fel y cyfryw, bydd yn creu ymdeimlad o'r amrywiaeth eang iawn o arddulliau dogfennol sydd ar gael: ail-greu dramatig, deunydd archif, animeiddio, trosleisio, effeithiau sain, cerddoriaeth, cyfweliadau, a sinema arsylwi. Daw’r modiwl i ben gyda phrosiect terfynol yn cynnwys cynhyrchu rhaglen ddogfen greadigol 5 munud

Nod

Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth gref i fyfyrwyr o broblemau creadigol a phosibiliadau cynhyrchu dogfen yn ogystal â gwybodaeth am dechnegau camera sengl.

Nod y modiwl yw dyfnhau sgiliau crefft gwaith camera ac arferion golygu, yn ogystal â datblygu’r rolau a’r cyfrifoldebau er mwyn gweithio’n effeithiol a chydweithredol fel tîm cynhyrchu.

Mae'r modiwl hefyd yn anelu at godi safonau proffesiynoldeb mewn gwaith cynhyrchu, cyflwyniadau a phitsio.

Cynnwys

Mae'r cynnwys yn cynnwys:

Darlithoedd/Sesiynau Gwylio
Y 6 math o raglenni dogfen


Gweithdai:
Ymarfer arsylwi (Dogfen Arsylwi)
Ymarfer cyfweld (Rhaglen Ddogfen Gyfranogol / Perfformio)
Ymarfer gweithgaredd (Rhaglen Ddogfen Expository)
Taith Ymchwil Ceredigion (Rhaglen Ddogfen Farddonol)
Cynnig syniad (Rhaglen Ddogfen Atgyrchol)
Sgiliau cyn-gynhyrchu
Datblygu syniad
Gweithdy Camera/Sain
Golygu Rhaglenni Dogfen
Dybio a theitlau
Cyflwyniadau a Dangosiadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu'r sgriptiau. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn cynnwys sgiliau cyfathrebu uchel. Trafodir hefyd waith sy'n cael ei ddangos a phynciau perthnasol, ynghyd â beirniadu sgriptiau personol y myfyrwyr. Anogir myfyrwyr i drafod yn fwyfwy manwl a soffistiedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn rolau wedi'u diffinio'n broffesiynol mewn gweithdai ac ymarferion a asesir, ac fe fyddant felly yn cael syniad o gynhyrchu proffesiynol yn y cyfryngau
Datrys Problemau Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael ag amrywiaeth o broblemau cyfarwyddo a sinematograffig yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn fwy penodol, bydd myfyrwyr yn ystyried technegau adrodd straeon, cyfarwyddo a golygu priodol. At hyn, wrth gynhyrchu'r gwaith, bydd myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys y problemau logistaidd, cyllidebol a thechnegol sydd ynghlwm â chynhyrchu.
Gwaith Tim Bydd y gweithdy yn cynnwys gwaith grŵp wrth gynllunio a gweithredu'r gwaith cynhyrchu. Bydd cynhyrchu'r fideos yn golygu cydweithredu'n agos iawn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y cwrs yn gofyn am feirniadu pob agwedd ar y gwaith cynhyrchu, o'r cyfarwyddo i’r golygu. Ar ben hynny, bydd y cwrs yn mynnu bod y myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchir wrth lunio’r sgript. Anogir y myfyrwyr i addasu eu gwaith wrth ymateb i'r asesiad hwn. Bydd yr aseiniad ysgrifenedig/traethawd beirniadol yn gwerthuso'r darn fideo.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu sgiliau cyn-gynhyrchu drwy'r cysyniad o gynyrchiadau lluosog, a'u cynllunio. Datblygir sgiliau cynhyrchu camera sengl i lefel uwch. Datblygir sgiliau golygu drwy ôl-gynhyrchu gwaith fideo.
Sgiliau ymchwil Bydd cynhyrchu'r gwaith fideo yn gofyn am ymchwilio i amrywiaeth eang o weithiau cynhyrchu ffilmiau dogfen, yn ogystal â deunyddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd saethu a golygu’r fideos yn golygu ymchwilio i'r systemau technegol a ddefnyddir wrth eu creu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd dyddiaduron, sgriptiau a chynigion yn cael eu geirbrosesu. Bydd y ffilm Fideo Digidol yn cael ei golygu ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Avid Media Composer. Mae'n bosibl y defnyddir cymwysiadau a thechnolegau cyfrifiadurol eraill, gan ddibynnu ar brosiect cynhyrchu penodol y myfyriwr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5