Cyhoeddi'r data ariannol diweddaraf ar ffermio organig

Nick Lampkin

Nick Lampkin

01 Mawrth 2006

Cyhoeddi'r data ariannol diweddaraf ar ffermio organig
Mae arolwg diweddaraf Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth o incwm ffermydd organig yng Nghymru a Lloegr (2003/4) yn dangos bod ffermydd organig o wahanol fathau yn llwyddo i gynnal lefelau incwm . Drwy wneud hyn maen't yn parhau i gynhrychu incwm tebyg neu well na ffermydd confensiynol yn ystod cyfnod a oedd yn cael ei gydnabod yn un o her o safbwynt marchnata, ac yn arbennig felly i’r sector laeth.

 Dywedodd cydlynydd y prosiect, Nic Lampkin: ‘Mae’r data hwn yn cadarnhau yr hyn y mae pob ffermwr eisioes yn gwybod, sef nad yw ffermydd organig na chonfensiynol yn gwneud elw mawr. Er bod y canlyniadau yn dangos rhywfaint o welliant i gynhyrchwyr confensiynol, mae angen gwelliannau sylweddol os yw’r ddau grwp yn mynd i gynnal hyfywedd yn yr hir dymor.’
 
 Mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o gynhyrch, costau cynhyrchu ac adennillion ar gyfalaf a llafur, yn ogystal â strwythurau cynhyrchu, prisiau a gafwyd a maint yr elw ar ffermydd organig o wahanol faint. Mae’n cynnwys gwybodaeth am elw gros ar gyfer da byw organig, grawn a garddwriaeth yn ogystal â meincnodau cost cynhyrchu llaeth, cig eidion a chig oen.
 
 Adroddiad 2003/4 yw’r arolwg blynyddol diweddaraf o ffermio organig mewn cyfres sy’n dyddio nol i 1995/6, ac sydd i gyd wedi eu cyhoeddi ar wefan Defra . Caiff y arolwg ei gynnal ar yr un sail â’r Arolwg Busnes Fferm ac mae’n cynnwys data o ffermydd sydd yn rhan o’r arolwg hwnnw. Fe’i cyllidir fel rhan o raglen ymchwil ffermio organig Defra.
 
 Mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer yr ‘Organic Farm Management Handbook’, sy’n cael ei gyhoeddi bob ddwy flynedd gan Sefydliad y Gwyddorau Gwledig a’r Gwasanaeth Cynghori Organig yng Nghanolfan Ymchwil Elm Farm. Disgwylir i rifyn 2006/7 gael ei gyhoeddi yn ystod Ebrill 2006.
 
 Mae Sefydliad Gwyddorau Gwledig ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth , yn gyfrifol am Arolwg Busnes Fferm Cymru ac mae yna rhaglen ymchwil eang ar ffermio organig sydd yn canolbwyntio ar fusnes, marchnata a materion polisi. Dyma hefyd leoliad Canolfan Organig Cymru, canolfan wybodaeth sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
 
 Prif ymchwilydd y gwaith hwn ar hyn o bryd yw Andrew Jackson (lluniwyd ardoddiadau cynharach gan Susan Fowler,cydlynydd polisi Canolfan Organig Cymru.). Nic Lampkin yw cydlynydd y prosiect cyfan a Chyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru. Dylid cyfeirio ymholiadau parthed y prosiect a’r canlyniadau at Nic Lampkin yn y lle cyntaf.
 
 Disgwilir i adroddiad 2004/5 ar Incwm Ffermydd Organig yng Nghymru a Lloegr gael ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin 2006.