Myfyrwyr yn dadlau'n llwyddiannus <br />

Sarah Harriott a Steven Jones.

Sarah Harriott a Steven Jones.

01 Mawrth 2006

Myfyrwyr yn dadlau'n llwyddiannus
Yn ystod penwythnos cyntaf mis Chwefror bu Adran y Gyfraith PCA yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ffug Lys (Moot) Flynyddol yr ‘Inner Temple' rhwng prifysgolion yn Llundain. Cafodd y ddau gyrhychiolydd o Aberystwyth sef Sarah Harriott (3edd flwyddyn LLB) a Steven Jones (2il flwyddyn LLB) gryn lwyddiant wrth iddynt gyrraedd y rownd gynderfynol, a thrwy hynny eu lle ymysg y pedwar uchaf allan o’r 17 tim oedd yn cymryd rhan.


Er fod colli yn y rownd gyn-derfynol wedi bod yn siom roeddent yn haeddiannol falch o’u perfformiadau. Roedd y ddau o’r farn hefyd fod yn profiad wedi bod yn un gwerthfawr yn gymdeithasol ac o safbwynt sgiliau cyfreithiol. Dywedodd Sarah Harriott: “Cawsom amser gwych yn y gystadleuaeth a gwnaethom yn dda iawn i gyrraedd y 4 uchaf allan o 17 tim. Er i’r holi cyfreithiol fynd yn anoddach gyda phob rownd a’r achos yn gymleth gwnaethom ddygymod yn dda o dan bwysau. Mae dadlau mewn ffug lys yn chwarae ar nerfau person ond mae’n ffordd wych o fagu hyder a sgiliau siarad cyhoeddus, yn arbennig ar gyfer bargyfreithwyr ac hyd yn oed cyfreithwyr, gan fod ganddynt hawliau adfocatiaeth cynyddol.”


Mae Steven Jones yn cytuno bod dadlau mewn ffug lys yn werth chweil ac yn rhoi cryn fwynhad iddo, ond nid yw hyn oherwydd ei lwyddiant diweddar yn unig: “Yn gyntaf, mae’n hwyl oherwydd y cyffro dwi’n teimlo wrth sefyll i fynny a chyflwyno’n nadl (mae hyn yn arbennig o wir pan rydych yn ennill dadl!), yn ail credaf ei fod yn rhoi profiad gwerthfawr sydd yn allweddol i unrhyw un sydd o ddifri yn ystyried gyrfa wrth y bar, ac yn drydydd, mae’n weithgaredd cymdeithasol a chystadleuol iawn. Mae’n cynnig cip-olwg ar fywyd yn y Bar. O’m mhrofiad i byddwn yn cymell unrhyw un i gymryd rhan mewn dadl ffug lys os nad am unrhyw reswm amgenach na’r ffaith ei fod yn brofiad cymdeithasol gwych ac i fagu hyder, nodwedd ddefnyddiol.”

Maen’t hefyd wedi cynrychioli’r Adran mewn cystadlaethau cenedlaethol eraill: Sarah yn Nadl Ffug Lys Genedlaethol ESU-Essex a Steven yng Nghystadleuaeth Dadl Ffug Lys Gwasg Prifysgol Rhydychen. Cafodd y ddau eu profiad cyntaf o ddadlau yng Nghystadleuaeth Ddadlau Fewnol Adran y Gyfraith sydd yn cael ei chynnal yn flynyddol. Gwobrwywyd Sarah â tharian am ei pherfformiad neilltuol yng nghystadleuaeth fewnol yr Adran llynedd. Ar hyn o bryd mae Steven yn cystadlu yn y gystadleuaeth eleni.
Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth ddadlau ffug lys fewnol, cysylltwch â Chapten y Gymdeithas Ddadlau, Claire Giles (clg3@aber.ac.uk).