Cystadleuaeth Sgiliau'r Myfyrwyr yn dathlu'r 10

Tim Gyddorau Gwledig buddugol yn y gystadleuaeth yn 2005.

Tim Gyddorau Gwledig buddugol yn y gystadleuaeth yn 2005.

13 Mawrth 2006

Ddydd Mercher 15 Mawrth bydd y Ffair Yrfaoedd a Chystadleuaeth Sgiliau’r Myfyrwyr, digwyddiad sydd yn unigryw i Brifysgol Cymru Aberystwyth ac sydd yn cael ei ystyried yn un o’r ffeiriau gyrfaoedd mwyaf blaengar ym Mhrydain, yn dathlu ei degfed penblwydd.
Bydd timoedd o bedair adran ar ddeg yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, â pob un yn rhoi cyflwyniad 10 munud yn theatr Canolfan y Celfyddydau ac yn cynnal stondin yn y Neuadd Fawr.  Y wobr i’r tîm buddugol fydd siec am £1000. Bydd y tîm sydd â’r stonding orau a’r tîm sydd â’r cyflwyniad gorau yn derbyn £500 yr un.
Prif bwrpas y Ffair Yrfaoedd, sydd yn cael ei threfnu gan wasanaeth gyrfaoedd y Brifysgol Gyrfaoedd Aber, yw dod a chyflogwyr a darpar gyflogedigion at eu gilydd. Eleni, fel ag mewn blynyddoedd o’r blaen, bydd cymysgedd o gyflogwyr lleol a chenedlaethol yno, ac i’r myfyrwyr sydd yn chwilio am y CV all arwain at wireddu’r swydd y maent wedi bod yn breuddwydio amdani, mae Gyrfaoedd Aber yn trefnu clinig CV ugain munud. 
Cefnogwch eich tîm!
Trefn cyflwyniadau y timoedd yn y Theatr:
09.15 Cyflwyniad
09.30 Daearyddiaeth Ffisegol
09.45 Saesneg
10.00 Mathemateg
10.15 Gwyddorau Gwledig
10.30 Ysgol Reolaeth a Busnes
Toriad
11.20 Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff
11.35 Hanes a Hanes Cymru
11.50 Gwyddorau Daear Amgylcheddol
12.05 Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
12.20 Theatr, Ffilm a Theledu
Cinio
13.45 Y Gyfraith
14.00 Cyfrifiadureg
14.15 Daearyddiaeth Dynol
14.30 Gwyddorau Biolegol
16.15 Seremoni Wobrwyo
17.00 Diwedd.
Ceir manylion llawn, gan gynnwys rhestr lawn o’r cyflogwyr fydd yn mynychu ar lein yn y safle ganlynol http://www.aber.ac.uk/careers/skilcomp.html .