Darlith O'Donnell

Yr Hen Goleg, PCA

Yr Hen Goleg, PCA

20 Mawrth 2006

Bydd Yr Athro James Mitchell o Brifysgol Strathclyde yn traddodi Darlith O’Donnell ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ar nos Fawrth 28 Mawrth 2006, am 7yh yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg. Teitl ei ddarlith fydd ‘Citizens and Nations: The Rise of Nationalism and the Decline of the British Keynesian Welfare State’.
Y Darlithydd
Ar hyn o bryd mae James Mitchell yn Athro Gwleidyddiaeth yn Adran Llywodraeth, Prifysgol Strathclyde. Mae ei gyhoeddiadau yn niferus ac yn cynnwys ‘Governing Scotland: The Invention of Administrative Devolution’ (2003) a ‘Strategies for Self-Government’ (1996). Ef hefyd oedd cyd-awdur ‘ScotlandDecides: The Devolution Issue and the 1997 Referendum’ (2000) ac mae cyfrol arall ‘Devolution in the United Kingdom’ ar y ffordd. Mae’r Athro Mitchell yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus Hŷn yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Alban o Gymdeithas Hansard (Yr Alban).
Y Ddarlith
Yn aml portreadwyd Mrs Thatcher fel bydwraig datganoli. Yn ogystal â darparu ffocws i’r gwrthbleidiau a’u galluogodd i ennyn cefnogaeth o blaid cynulliad cenedlaethol i Gymru a Senedd i’r Alban, heriodd Mrs Thatcher ein dealldwriaeth sylfaenol o ddinasyddiaeth, a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth. Canlyneb chwedl y wladwriaeth unedig o safbwynt dinasyddiaeth yw’r syniad o gydraddoldeb, neu i fod yn fwy cywir, unffurfioldeb hawliau a chyfrfoldebau’r dinasyddion ble bynnag maen’t yn byw.
Tanseiliodd Mrs Thatcher rhai o’r propiau allweddol a oedd yn cynorthwyo i gynnal chwedl y wladwriaeth unedig a’r syniadau o ddinasyddiaeth unegid a ddeuau yn ei sgil. Heddiw mae llywodraeth ddatganoledig yn bod ac eto rydym yn ei chael yn anodd dod o hyd i iaith dinasyddiaeth newydd i gymryd lle iaith y wladwriaeth unedig. Mae’r wladwriaeth ganolog ymyraethol Keynesiaidd wedi mynd, ond heb ddim yn ei lle hyd yma.  Dyma un o brif heriau datganoli. Nawr mae angen dealldwriaeth newydd o ddinasyddiaeth yn ein ffurf o lywodraeth aml-lefelog.

 

Os am fwy o wybodaeth am y darlithydd ewch i http://www.strath.ac.uk/government/staff/mitchell.html.