£10.4m i Aberystwyth i sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Delweddu

Argraffiad arlunydd or adeilad newydd

Argraffiad arlunydd or adeilad newydd

29 Mawrth 2006

Heddiw (dydd Mercher 29 Mawrth) cyhoeddwyd sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Delweddu gwerth £10.4 miliwn gan Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro PCA ac Andrew Davies, Y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth. Adeiladir y ganolfan newydd ar gampws Penglais y Brifysgol.

Gyda chefnogaeth o fwy na £6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r partneriaid diwydiannol Silicon Graphics Inc a Sun Microsystems, bydd y Ganolfan ym ymgartrefu mewn adeilad pwrpasol newydd a fydd yn cynnwys nifer o theatrau arddangos a gweithdai nad oes eu cystal yn y Deurnas Unedig. Bydd yno amgylchfyd rhithwir o safon byd-eang lle gellir datrys problemau cymhleth a chreu cynnyrch newydd trwy gyfrwng delweddu tri dimensiwn deinamig.

Bydd y Ganolfan yn cynnwys:
• Theatr rithwir 3 dimensiwn ac amgylchedd ymdrwytho Fakespace CURV, sef sgrin fawr grom
• Tafluniad rhyngweithiol ymdrwytho llawn wedi ei gynrhychu gan Fakespace Powerwall 
• Cyfrifiaduron pwerus Silicon Graphics Inc Prism Extreme ar gyfer prosesu setiau data mawr
• Offer cyfrifiadurol pwerus Sun Microsystems, a gweithfannau sy'n rhoi profiad rhithwir personol
• Adnoddau wedi eu rheoli'n llawn, gan gynnwys swyddfeydd unigol, gweithdai, a gweithfannau i ddefnyddwyr Delweddu.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu a gosod offer yn y ganolfan newydd ddechrau ym mis Gorffennaf eleni i'w gwblhau erbyn Medi 2007.

Dywedodd yr Athro Lloyd:
“Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol a phwysig i’r Brifysgol yma yn Aberystwyth; un fydd yn ei sefydlu’n ganolfan o bwys cenedlaethol yn y maes hwn a'i gwneud yn sefydliad sydd ar flaen y gad ym maes technoleg delweddu. Bydd yn codi proffil y Brifysgol o ran ymchwil a datblygu ac yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chymru gyfan."

“Mae’r Brifysgol yn rym pwysig o safbwynt datblygiad economaidd Canolbarth Cymru am ei bod yn gyflogwr mawr, sydd yn darparu gweithlu medrus ac yn cynorthwyo cwmnïau lleol i ddatblygu eu defnydd o dechnoleg. Bydd yn ganolfan newydd hon yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu’r economi wybodaeth, yn arwain at greu nifer mawr o swyddi safon uchel (118), a bydd yn adnodd ymchwil o’r radd flaenaf a all ymateb i anghenion cwmnïau bach a chanolig ac ymchwilwyr academaidd fel ei gilydd.”

Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd Andrew Davies: “Mae hwn yn brosiect cyffrous sydd yn tanlinellu’r ffaith fod Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang o safbwynt datblygiad ac ymchwil technolegol. Mae’r Ganolfan newydd yn tanategu gweledigaeth ac ymrwymiad