Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig tair ysgoloriaeth Phd.

Adeilad Parry-Williams - cartref yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Adeilad Parry-Williams - cartref yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

22 Mawrth 2006

Dydd Mawrth 22 Mawrth , 2006
Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig tair ysgoloriaeth Phd.
Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth, a gafodd raddfa 5 yn Asesiad Ymchwil 2001, yn gwahodd ceisiadau am ysgoloriaethau ymchwil PhD amser llawn sydd ar gael o 1 Medi 2006 am gyfnod o dair blynedd. Gwahoddir ceisiadau ym maes:
Astudiaethau Ffilm a/neu Teledu ac/neu y Cyfryngau ac Astudiaethau Cyfathrebu
Drama ac/neu Astudiaethau Theatr ac/neu Astudiaethau Perfformio a/neu senograffeg
Theatr, Perfformio, Senograffeg, Ffilm, Teledu, y Cyfryngau ac Astudiaethau Cyfathrebu Cyfrwng Cymraeg.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn unrhyw un o'r pynciau hyn yn gweithio mewn maes sydd â diwylliant ymchwil ffyniannus.
Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil amser llawn hyn yn cynnwys ffioedd ar gyfradd myfyrwyr cartref a thâl cynhaliaeth o £10,500 am dair blynedd yn ogystal â lwfans teithio/cynadleddau o £500 y flwyddyn. Fel arfer disgwylir i ymgeiswyr fod â chymhwyster ar lefel meistr neu brofiad proffesiynol addas. Gellir lawrlwytho manylion pellach o'n gwefan ar www.aber.ac.uk/tfts  neu gallwch gysylltu â Ceris Jones, Gweinyddydd Ymchwil, ar ekj@aber.ac.uk  neu 01970 628 648.
Gall ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â’r Athro Ioan Williams (01970 622 834, imw@aber.ac.uk ) a dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflwyno cais trwy gyfrwng y Saesneg gysylltu â Dr Daniel Meyer-Dinkgräfe ar 01970 622 835 neu dam@aber.ac.uk .
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 20 Ebrill 2006.
Hybu Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Ymchwil/Promoting Excellence in Teaching and Research