Llwyddiant y Gyfraith

Y tim buddugol o'r Adran Gyfraith

Y tim buddugol o'r Adran Gyfraith

16 Mawrth 2006

Ennilwyr y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr, sydd yn dathlu ei dengmlwyddiant eleni, yw tîm Adran y Gyfraith. Wedi diwrnod hir o gystadlu brwd a theg rhwng y pedwar tîm ar ddeg ar ffurf cyflwyniadau 10 munud a stondin arddangos, tîm Adran y Gyfraith ddaeth i'r brig.

Ffrwyth ei llwyddiant oedd siec gwerth £1000 gafodd ei chyflwyno i aelodau'r tim buddugol, Laura Bland, Kate Barlow, Tom Scapens, Jenni Amphlett a Paul Squires gan Douglas Lamont o RPS Group, noddwyr y brif wobr.

Aeth y wobr am y Cyflwyniad Gorau, a noddwyd gan BBC Cymru/Wales, i dîm yr Adran Gyfrifiadureg, a’r wobr am y Stondin Orau, a noddwyd gan Y Fyddin, i’r Ysgol Reolaeth a Busnes. Cyflwynwyd siec gwerth £500 i’r ddau gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Noel Lloyd.

Thema stondin tîm adran y Gyfraith oedd ‘Y Gyfraith rwy’n dy garu di’ ac roedd ei cyflwyniad yn cynnwys set Jenga anferth. Yn ôl yr aelodau Tom Scapens a Paul Squires, ei nod oedd dangos faint o sgiliau trosglwyddadwy sydd gan fyfyrwyr y gyfraith, a’r rol holl bwysig sydd gan y Gyfraith ym mywydau pobl bob dydd. Yn ogystal â derbyn cefnogaeth wych gan ei hadran, derbyniodd y tîm nawdd gan y cwmni o gyfreithwyr Wragge & Co.
Dywedodd Paul Squires,
“Mae’r gystadleuaeth hon wedi rhoi llawer gwell dealldwriaeth i ni o’r sgiliau sydd gyda ni a pha mor berthnasol ydynt.”

Mae Douglas Lamont o RPS Group wedi bod yn ymwneud â’r gystadeluaeth ers 4 blynedd. I ddecrhau roedd yn noddi un o’r timau ond erbyn hyn ef yw noddwr y brif wobr ac mae’n aelod o’r panel beirniadu.
“Mae’r Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr yn unigryw ac yn ffordd wych o weld myfyrwyr wrth eu gwaith. Mae’n ofynnol i ni’r cyflogwyr edrych tu hwnt i’r cymwysterau academaidd ac am y bobl fwyaf disglair, rhywbeth nad yw’n amlwg o ganlyniadau gradd bob tro. Mae’r gystadleuaeth hon yn blatfform gwych er mwyn arddangos rhai o’r nodweddion rydym yn chwilio amdanynt, y gallu i gyfathrebu yn dda, a sgiliau trefnu a chyflwyno da.”

“Mae ennill y gystadleuaeth hon yn eirda gwych. Ychydig fyfyrwyr sydd yn cael y cyfle i gyfarfod â, a chyflwyno eu gwaith i ddeg cyflogwr pwysig, sef aelodau’r Panel Beirniadu. Mae’n ddigwyddiad gwych.”

Yn ystod y trefniadau ar gyfer y gystadleuaeth eleni torrodd trefnydd y gystadeluaeth, Lynda Rollason, ei garddwrn. Yn ystod y seremoni wobrwyo cafodd gymeradwyiaeth gynnes iawn gan aelodau’r timoedd a cyflwynwyd tisw o flodau iddi gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaeth Gyrfaoedd, Emma Harrison.