Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth

Myfyrwyr ol-radd Melissa day ( chwith a Anni vanhatalo ( ar y beic) or adran gwyddor Chwaraeon yn dysgu disgyblion Ysol Bro Ddyfi sut mae mewnbwn ocsegen, allbwn carbon-deiocsid a curiad y galon yn effeithio ar athletwr/wraig trwy fonitro perfformiadau yn y lab Ffiseg

Myfyrwyr ol-radd Melissa day ( chwith a Anni vanhatalo ( ar y beic) or adran gwyddor Chwaraeon yn dysgu disgyblion Ysol Bro Ddyfi sut mae mewnbwn ocsegen, allbwn carbon-deiocsid a curiad y galon yn effeithio ar athletwr/wraig trwy fonitro perfformiadau yn y lab Ffiseg

16 Mawrth 2006

Bu dros 800 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd o Geredigion, Powys a Gwynedd yn ymweld â'r Brifysgol yn Aberystwyth yr wythnos hon fel rhan o weithgareddau Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth.
Ddydd Llun 13 Mawrth bu dros 600 o ddisgyblion cynradd Ceredigion yn ymweld â ‘Kolor Kaleidoscope' yng Nghanolfan y Celfyddydau. Thema’r diwrnod oedd lliw ar modd y mae natur yn ei ddefnyddio. Trefnwyd y digwyddiad gan Canolfan Bio Aber, sef menter ar y cyd rhwng Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig a Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol a Tir Glas.
Ymysg y gwahanol arddangosfeydd roedd cyfle i astudio sut mae pryfed yn gweld blodau, sut mae creaduriaid glanmor yn defnyddio cuddliw (camouflage), sut mae’r ymennydd yn gallu eich camarwain i weld y lliw ‘anghywir’, grym blodau a sut mae geneteg yn rheoli lliw.
Cafwyd ymateb gwych a lliwgar i gystadleuaeth gwneud modelau. Roedd yna giraffiau, pysgod egsotic o’r Amason, a phryfed cantroed a miltroed wedi eu creu o bob math o ddefnyddiau.
Rhannwyd y wobr gyntaf am yr ysgol orau rhwng yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Comins Coch, â’r ddwy ysgol yn derbyn £150.
Roedd yna nifer o ennillwyr unigol. Rhanwyd y wobr gyntaf rhwng William Barker o Comins Coch a Gwenno Stevens o’r Ysgol Gymraeg, a’r ail wobr rhwng Aaron Lewis o Comins Coch a David Marvelly o’r Ysgol Gymraeg. Rhannwyd y drydedd wobr hefyd, rhwng Daisy Farrington, Rowena Donnison a Kirk Belcher o Comins Coch, a Matt Phillips, Sian Spence a Nathan Edwards o’r Ysgol Gymraeg. Derbyniodd y cyntaf docyn llyfr gwerth £30, yr ail docyn llyfr gwerth £20 a’r trydydd docyn llyfr gwerth £15.
Ddydd Iau a dydd Gwener (16 a 17eg Mawrth) bu ysgolion uwchradd Dolgellau, Bro Ddyfi Machynlleth, Tregaron, Penglais a Llambed yn ymweld â gwahanol adrannau gwyddoniaeth y Brifysgol. Yn yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff buont yn ymweld â’r labordy Biomecaneg, ac yn gweld sut mae mesur pwysau a braster drwy ddefnyddio’r tanc dŵr yn y labordy Anthropometry, a sut mae’r corff yn ymateb i ymarfer yn y labordy ffisioleg.

Gwyddoniaeth ar yr awyr
Lansiwyd Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth gyda rhaglen ‘ffonio mewn’ 25 munud ar Radio Ceredigion ar ddydd Gwener 10 Mawrth. Bu aelodau o staff y Brifysgol yn ateb cwestiynau gan fyfyrwyr ysgolion uwchradd mewn Ffiseg, Cemeg a Bioleg. Mae fersiynau llawn o’r atebion, gan gynnwys rhai na chafodd eu hateb ar y rhaglen oherwydd prinder amser, yn ymddangos ar lein.