Cwrs cyfraith newydd i dargedu prinder 'difrifol'

campws Penglais

campws Penglais

12 Mai 2006

Mae Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn lansio cwrs newydd er mwyn lleddfu’r prinder cynyddol o gyfreithwyr cymwysedig sydd yn gweithio mewn trefydd bychain ac ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Datblygwyd y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (‘Legal Practice Course’) ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu gradd gyntaf neu gymhwyster cyfwerth yn ôl gofynion Cymdeithas y Gyfraith, a bydd yn cael ei gynnig am y tro cyntaf gan Adran Gyfraith y Brifysgol o fis Medi 2006.

Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Ganolfan Addysg Gyfreithiol y Deyrnas Unedig fod tueddiad cynyddol i gyfreithwyr cymwysedig weithio i gwmnïoedd mewn trefi mawr neu ddinasoedd, gan ei gwneud yn gynyddol anodd i bobl sydd yn byw mewn trefi bychain ac ardaloedd gwledig gael gwasanaethau cyfreithiol. Drwy gynnig y cwrs yn Aberystwyth y gobaith yw y bydd myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i aros yng Nghymru a gweithio fel cyfreithwyr, a thrwy hynny, mynd i’r afael â’r prinder o sgiliau cyfreithiol a’r angen i gadw cyfreithwyr yng Nghymru.

Mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn angenrheidiol i unrhyw un sydd yn awyddus i weithio fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cymhwyster proffesiynol hwn yn elfen allweddol o’r hyfforddiant galwedigaethol er mwyn bod yn gyfreithiwr. Cymdeithas y Gyfraith sydd yn gosod safonau ar gyfer darparwyr y cwrs a’i strwythur, a thrwy hynny sicrhau safon a chysondeb ar draws y darparwyr.

Mae’r ffaith bod Aberystwyth wedi cael ei dilysu i redeg y cwrs yn brawf o hyder cyrff cyfreithiol proffesiynol yng ngallu’r Brifysgol i ddarparu hyfforddiant proffesiynol o safon. Mae datblygu’r adnoddau a’r strwythurau angenrheidiol a’r gyfer darparu’r cwrs hwn yn dangos ymrwymiad ariannol sylweddol gan y Brifysgol i’r gymuned a phroffesiwn y Gyfraith yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd y cwrs yn cydredeg â chwrs sydd eisoes yn bod ym Mhrifysgol Abertawe. Credir y bydd yr arbenigedd a rennir rhwng y ddau sefydliad o fudd i fyfyrwyr ar y ddwy raglen. Bydd staff yn gweithio i sicrhau bod ymarfer da, dysgu a datblygiad staff yn cael eu rhannu.

Dywedodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith yn Aberystwyth:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’r Brifysgol ac yn gam pwysig er mwyn taclo’r prinder difrifol o gyfreithwyr cymwys yng Nghymru. Mae’r datblygiad yn golygu y bydd myfyrwyr sydd eisoes yma yn Aberystwyth yn gallu parhau â’u hyfforddiant proffesiynol yma ac i fyfyrwyr newydd brofi’r manteision niferus o astudio mewn awyrgylch fwy personol.

Mae parch mawr i Adran y Gyfraith o fewn y gymuned gyfreithiol yng Nghymru ac o amgylch y DU ac mae nifer o gwmnïoedd wedi gofyn am gael bod yn rhan o’r datblygiad. Byddwn yn defnyddio cyfreithwyr sydd yn gweithio mewn cwmnioedd o gyfreithwyr preifat i ddysgu ar y cwrs gan fod hyn yn ychwanegu elfen o ‘fywyd go iawn’. Nod y cwrs yw paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gweithio fel cyfreithwyr ac felly mae gwybodaeth rhywun sydd yn gweithio yn y maes yn werthfawr.”

Bydd y cwrs yn cynnwys ffocws ar ‘Gymru’r Gyfraith’ gyda’r nod o gynnwys y Gymraeg yn y gwaith dysgu a’r asesu.

Ar hyn o bryd mae paratoadau ar droed er mwyn i’r myfyrwyr cyntaf ddechrau ym mis Medi 2006. Dylai unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am y cwrs a sut mae gwneud cais gysylltu â Gweinyddwr y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Rachel Tod, drwy ebostio studylpc@aber.ac.uk neu ffonio 1970 622857.