Dr Bill Edwards (1944 – 2007) <br />

Dr Bill Edwards

Dr Bill Edwards

01 Mehefin 2007

Dydd Gwener 1 Mehefin, 2007
Dr Bill Edwards (1944 – 2007)
Tristwch o'r mwyaf yw rhoi gwybod am farwolaeth y Dr Bill Edwards. Ers 1969 bu'r Dr Edwards, a fu farw ddydd Llun ar ôl salwch hir, yn aelod o’r adran Daearyddiaeth (Sefydliad Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Daear erbyn hyn) ac yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau ers mis Awst 2005.

Roedd gan Bill gariad mawr tuag at gefn gwlad a phobl cefn gwlad; rhywbeth a amlygwyd yn ei waith ymchwil. Fe oedd Cyd-Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Arolgygon Gwledig o 1989 i 2000, gan ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys gwaith yn helpu cymunedau gwledig i bwyso a mesur eu hanghenion eu hunain a’r heriau a’u hwynebai. Ers 2004 fe fu’n Gyd-Gyfarwyddwr Arsyllfa Cefn Gwlad Cymru, yn gwneud gwaith ymchwil cysylltiedig â pholisi ar y Gymru wledig. Chwaraeai ran hefyd yng ngwaith ymchwil i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Sefydliad Joseph Rowntree a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar weithgarwch cymunedol a llywodraethu cefn gwlad, ac ef oedd ymhlith y dylanwadau pennaf ar y corff newydd o ymchwil ar lywodraethu cefn gwlad.

Credai Bill ym mhwysigrwydd y cysylltiad rhwng dysgu ac ymchwil. Roedd yn dysgu amrywiaeth o bynciau mewn modd brwd, ymroddgar a phroffesiynol, ac roedd yn ymroddedig i’w fyfyrwyr PdD. Bu hefyd yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith rheoli’r adran, gan ysgwyddo sawl cyfrifoldeb, gan gynnwys, yn ddiweddaraf oll, swydd y Cyfarwyddwr Dysgu, lle y bu’n hyrwyddo ei ymroddiad i addysg o’r ansawdd orau sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr. Dyma’r weledigaeth y bu’n ei harddel hefyd yn y swydd olaf fel Deon.

Bydd yn golled mawr ar ei ôl gan ei gyfeillion, ei gydweithwyr a’i fyfyrwyr yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a byddant oll yn cydymdeimlo’n ddwys â’i deulu, Kay, Kate a Rob.

Cynhelir gwasanaeth angladd cyhoeddus i Bill yn eglwys Llanychaearn ddydd Gwener 8 Mehefin am 1.30 y prynhawn, gyda lluniaeth wedyn yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gwahoddir rhoddion, yn lle blodau, ar gyfer Ward Meurig, Ysbyty Bronglais, d/o Trefor Evans, Brongenau, Llandre, Aberystwyth. Ceir manylion y trefniadau i’r angladd a theyrnged lawn i Bill a’i yrfa ar wefan y Sefydliad drwy ddilyn y ddolen gyswllt sydd yn y golofn dde o'r dudalen hon.