Prix de La Grange

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

04 Mehefin 2007

Dydd Gwener 8 Mehefin, 2007
Académie des Inscriptions et Belles-Lettres yn gwobrwyo gwaith academydd o Aberystwyth
Dyfarnwyd y wobr Prix de la Grange i'r Athro David Trotter, Adran Ieithoedd Ewropeaidd, gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis am ei fersiwn o'r testun Ffrangeg canoloesol gan Albucasis, On Surgery, gafodd ei gyhoeddi gan Max Niemeyer Verlag, Tübingen, yn 2005.

Ffurf gonfensiynol orllewinol ar yr enw Abû’l-Qâsim Khalaf ibn Abbâs ’al-Zahrâwî yw “Albucasis”. Ef oedd meddyg llywodraethwyr Córdoba tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg.  Ysgrifennwyd ei waith pennaf, compendiwm 30-pennod dan y teitl al-Tasrif, mewn Arabeg; mae o bwys mawr iawn yn nhrosglwyddiad gwybodaeth feddygol Roegaidd, trwy gyfrwng yr Arabeg, i’r Oesoedd Canol ac thu hwnt; mae’n llawer mwy na ail luniad o weithiau blaenorol, mae’n draethawd llawfeddygol ymarferol.

Mae’n amlwg fod yr awdur yn lawfeddyg gweithredol, a’i waith wedi ei fywiogi gan brofiadau personol.  Mae’r bennod ar lawfeddygaeth yn parhau fel testun ar wahân, ac yn gyfoeth o ddarluniau o offer llawfeddygol.  Yn wir, y darluniau yma sydd wedi arwain at nifer o gyhoeddiadau ar Albucasis, a nifer o astudiaethau o’r offer.


Yn ôl yr Athro Trotter cafodd llawlyfr llawfeddygaeth Albucasis ei gyfieithu gan Gerard o Cremona yn Toledo yn ystod ail hanner y ddeuddegfed ganrif.
“Cynhyrchodd Gerard ferisynau o tua 87 o draethodau gwyddonol Arabaidd. Mae’n gyfrifol am drosglwyddo rhan helaeth o ddeunydd gwyddonol Arabaidd i’r gorllewin.  Yn ddiweddarach cafodd testun Lladin Gerard ei gyfieithu i Hen Ffrangeg ac i Ocsitán, ond nid, cyn belled ag y gwyddom, i’r Saesneg yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol.  Ceir fersiwn Hebraeg sydd, yn ôl y sôn, wedi ei chymryd yn uniongyrchol o’r Arabeg. 

“Cafodd Albucasis gryn ddylanwad ar feddygaeth. Mae erthyglau yn parhau i ymddangos mewn cyfnodolion meddygol sy’n trafod ei syniadau a’i dechnegau.  Yn fwy na dim, efallai, dylanwadodd yn uniongyrchol ar y llawfeddyg o Avignon, Guy de Chauliac, y cyfeirir ato yn Sefydliad Wellcome yn Llundain, ochr yn ochr â Galen a Hippocrates. Chauliac oedd yr awdur llawfeddygol mwyaf ei ddefnydd hyd at, ac yn ystod y Dadeni yn Ewrop.

“Mae Albacasis, felly, yn ffigwr allweddol yn hanes meddygaeth.  Cafodd y cyfieithiad canoloesol o’r traethawd ei wneud yn Lorraine (dwyrain Ffrainc) ganol y drydedd ganrif ar ddeg. Bryd hynny, cymharol ychydig o lawlyfrau llawfeddygol oedd yn bodoli yn yr iaith frodorol (a dim llawer mewn Lladin), ac mae’n un o lond dwrn o destunau tebyg o’r drydedd ganrif ar ddeg. 

Mae’n darparu cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i wneud llawdriniaethau (yn enwedig seriadau, rhywbeth yr oedd Albucasis yn hynod o frwd ohono, ar gyfer pob math o gyflyrau lle nad oedd defnyddio haearnau poeth yn amlwg ddefnyddiol – e.e. peswch a phoenau cefn).  Gan fod y testun mor gynnar, mae’n darparu’r dystiolaeth gyntaf o nifer o eiriau technolegol, yn enwedig y rhai sydd yn tarddu o’r Arabeg, ac mae’n ychwanegu yn fawr at yr hyn yr ydym yn ei wybod am Ffrangeg gwyddoniaeth yn yr Oesoedd Canol,” ychwanegodd.

Argraffiad yr Athro Trotter yw’r cyntaf o’r testun yma; mae’r testun 150 gair wedi ei ragflaenu gan gyflwyniad chwedeg tudalen a bron i gant tudalen o eirfa gynhwysfawr a sylwadau ar yr eirfa. Rhoddwyd clod arbennig i hyn gan yr adolygwyr.

Mae’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettreshttp://www.aibl.fr/fr/present/home.html  yn un o bump academi’r Institut de France (yr un enwocaf yw’r Académie Française ei hunan).  Mae’n ymwneud â ieithoedd, llenyddiaeth a diwylliant o’r cyfnod Clasurol hyd at yr ail ganrif ar bymtheg, yn Ewrop a thu hwnt.  Dyfernir y Prix de La Grange yn flynyddol.

Bu David Trotter yn Athro Ffrangeg ac yn Bennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd ers 1993.  Ei brif waith ymchwil yw’r Geiriadur Eingl-Normanaidd (www.anglo-norman.net) sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, adolygiad cynhwysfawr o’r unig ddyddiadur Eingl-Normanaidd, ffurf o’r Ffrangeg canoloesol oedd yn cael ei defnyddio yn Ynysoedd Prydain.

Yn 2004, trefnodd yr pedwerydd cyfarfod ar hugain – a’r cyntaf ym Mhrydain – o’r gynhadledd flaengar ryngwladol ar ieithyddiaeth Rhamantaidd yn Aberystwyth (mae pedair cyfrol ar fin cael eu cyhoeddi, hefyd gan Niemeyer, fis nesaf).

Ers dod i Aberystwyth mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o draethodau wedi eu golygu ar ieithyddiaeth Ffrangeg yr Oesoedd Canol (1997) ac amlieithrwydd ym Mhrydain yr Oesoedd Canol (2000), tri-deg-saith o bapurau a phenodau llyfrau, ac wedi traddodi chwe-deg-pump o bapurau a darlithoedd ym Mhrydain, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Romania, Denmarc, Canada, Gwlad Belg, yr UDA, Sbaen, Sweden ac Uzbekistan.