Bwrsariaeth PhD Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Adeilad Carwyn James

Adeilad Carwyn James

18 Mehefin 2007

Dydd Llun 18 Mehefin, 2007
Bwrsariaeth PhD Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gwahodd ceisiadau am fwrsariaeth 3 blynedd gwerth £12,300 gyda ffioedd. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 22 Mehefin.

Dyma gyfle cyffrous i fyfyriwr brwd sydd â diddordeb mewn ffisioleg chwaraeon ac ymarfer corff i ymuno â Phrifysgol Cymru Aberystwyth, a saif ar arfordir y gorllewin mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Lleolir yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn canolfan labordai wedi'i chodi'n bwrpasol sy’n cynnig adnoddau ag offer o’r radd flaenaf a diwylliant ymchwil bywiog. Mae gan y labordai amrywiaeth o ergomedrau gan gynnwys melinau troed Woodway, ergomedrau seiclo Lode, dynamomedr isocinetig, systemau Jaeger ar-lein, a siambr amgylcheddol.
Dilynwch y ddolen gyswllt ar y dde i fynd i dudalen gwe yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Bydd disgwyl i ddalwyr yr ysgoloriaeth gyfrannu hyd at chwe awr yr wythnos at weithgareddau dysgu’r Adran.

Croesewir ceisiadau yn arbennig oddi wrth fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn un o’r meysydd isod:
•  Ymarfer Corff a gweithredu ysgyfeiniol mewn iechyd ac afiechyd
•  Ymateb enynnol i weithgaredd gorfforol mewn iechyd ac afiechyd
•  Cineteg O2 fel penderfynyn mewn perfformiad ymarfer corff arddwysedd uchel
•  Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
•  Imiwnoleg Chwaraeon

DYDDIAD CAU 22/06/07
CYFWELIADAU 06/07/07

Dylid gwneud ceisiadau drwy’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedig. Gweler y ddolen gyswllt ar ochr dde y dudalen i'r Swyddfa Derbyn Uwchraddedig.

Rhowch ysgoloriaeth SES pan ofynnir am ffynhonnell eich cyllid. Dylech gynnwys cynnig ymchwil o hyd at 1,000 o eiriau i ddangos beth yw eich diddordebau.

Croesewir ymholiadau anffurfiol. Cysylltwch â Phennaeth yr Adran, yr Athro John Barrett ar jzb@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621545.