Bwrsariaethau radio

Stiwdio's y BBC yng Nghaerdydd

Stiwdio's y BBC yng Nghaerdydd

22 Mehefin 2007

Dydd Gwener 22 Mehefin, 2007
Bwrsariaethau BBC i gynhyrchwyr radio'r dyfodol

Mae BBC Cymru yn cynnig dwy fwrsariaeth tuag at gostau ffioedd dysgu ar gwrs MA Cynhyrchu Radio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bydd y cyfweliadau ar gyfer y ddwy fwrsariaeth – un Cymraeg ac un Saesneg - yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf 2007, ac fe fydd gwahoddiad yn cael ei estyn i bob myfyriwr sydd wedi cael ei dderbyn ar y cwrs gan y coleg.

Bydd y ddau fyfyriwr sy'n derbyn y bwrsariaethau hefyd yn treulio wythnos o brofiad gwaith gyda Radio Cymru neu Radio Wales fel rhan o’u cwrs.

“Mae hwn yn gyfle heb ei ail i fyfyriwr sydd newydd raddio neu rywun sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd ond sydd am ddatblygu sgiliau ym maes cynhyrchu radio ffeithiol,” meddai cydlynydd y radd, Esther Prytherch a fu’n gweithio i BBC Cymru am 15 mlynedd cyn ymuno â staff y coleg.

Hwn yw’r unig gwrs o’i fath yng Nghymru ac un o lond llaw o gyrsiau cyffelyb ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r pwyslais ar waith ymarferol a’r nod yw sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen er mwyn gweithio yn y diwydiant radio yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r tîm dysgu hefyd yn cynnwys Ceri Wyn Richards, cyn Uwch Gynhyrchydd a Golygydd Radio Cymru sydd bellach yn berchen ar gwmni cynhyrchu radio a theledu annibynnol Torpedo Cyf yn Llantrisant ger Caerdydd.

“Fel cynhyrchydd radio annibynnol, roeddwn i’n ymwybodol bod diffyg cyfleon hyfforddiant yng Nghymru,” eglurodd Ceri. “Roedd gen i weledigaeth ar gyfer cwrs prifysgol a fyddai’n cynnig sgiliau galwedigaethol ym maes cynhyrchu radio ffeithiol ac fe weithiais gyda Phrifysgol Cymru, Aberystwyth i droi’r weledigaeth honno yn realiti. Mae’r cwrs yma’n creu dolen gref rhwng y byd academaidd a diwydiant, a’r gobaith yw y bydd graddedigion yr MA Radio yn gadael Aber yn barod ar gyfer swydd yn y byd darlledu radio.”

Mae’r cwrs yn cael ei gynnig gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, sydd hefyd yn gartref i un o stiwdios rhanbarthol y BBC.

Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Esther Prytherch: E-bost: esp@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 628464 / 07968 593078