Gwahodd ffisegydd i Stryd Downing

Alan Wood

Alan Wood

09 Mawrth 2007

Dydd Gwener 9 Mawrth, 2007
Gwahodd ffisegydd ifanc o Aberystwyth i Stryd Downing
Mae myfyriwr doethuriaeth sydd yn astudio ‘tywydd y gofod' ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth wedi derbyn gwahoddiad i dderbyniad gyda'r Prifweinidog, Tony Blair, yn 10 Stryd Downing ddydd Llun 12 Mawrth.

Mae Alan Wood yn aelod o’r grŵp ymchwil Ffiseg y System Solar sydd yn uchel iawn ei barch ac sydd yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol yn Aberystwyth. Cydnabyddiaeth yw’r gwahoddiad “o gyfraniad gwyddonwyr ifainc, peiriannwyr ac ymchwilwyr i ddyfodol y Deyrnas Gyfunol”.

Mae gwaith ymchwil Alan yn canolbwyntio ar ardaloedd mawr o blasma tra-ddwys, a sut maent yn ffurfio, symud ac esblygu yn yr atmosffer uwchben Pegwn y De a Phegwn y Gogledd. Yn aml maent yn ymestyn dros 1000edd o gilometrau ac yn gallu amharu ar signalau lloerenau megis y rhai sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer offer lleoli byd-eang (GPS).

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, derbyniodd Alan radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg a Ffiseg y Planedau a’r Gofod o Aberystwyth yn 2002. Cafodd ei ysbrydoli i ddychwelyd i’r byd academaidd wedi cyfnod yn gweithio fel gohebydd ar orsaf radio leol Star 107 yng Nghaerloyw, ar ôl treulio 6 mis olaf ei gwrs gradd yn yr Arctig yn astudio’r uwch atmosffer uwchben Pegwn y Gogledd. 

Cyn teithio i Lundain dywedodd Alan:
“Mae’n fraint cael derbyn gwahodd i dderbyniad sydd yn cael ei gynnal gan y Prifweinidog. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i’r derbyniad ac i gael gweld beth sydd tu ôl i ddrws du enwog 10 Stryd Downing. Mae ymchwil gwyddonol yn allweddol er mwyn gyrru datblygiadau newydd ym mhob rhan o’r wlad ac mae’n dda gweld y llywodraeth yn cefnogi hyn yn y ffordd yma.”

“Mae’r Grŵp Ffiseg Sustem Solar Aberystwyth yn gweithio ar bynciau sylfaenol ffiseg fodern – sut mae’r Haul, a ‘thywydd y gofod’ sydd yn tarddu yno, yn effeithio ar y Ddaear. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r gwaith hwn ac rwyf wedi derbyn cefnogaeth wych gan y grŵp ymchwil a’r Brifysgol gyda’ng ngwaith,” ychwanegodd.

Grŵp Ffiseg Sustem Solar Aberystwyth yw un o’r canolfannau mwyaf blaengar yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio effeithiau’r tywydd solar ar y Ddaear. O dan gyfarwyddiaeth yr Athro Manuel Grande mae’r grŵp yn chwarae rhan flaenllaw mewn nifer o deithiau cyfredol i’r gofod.

i. Mae’r offeryn Aspera 4 ar daith Venus Express yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn galluogi’r grwp i astudio amgylchedd dwys y blaned Gwener.
ii. Yr Athro Grande yw’r prif ymchwilydd ar D-CIXS (demonstrator compact X-ray spectrometer), offeryn ar long ofod Smart-1 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd laniodd ar y lleuad yn mis Medi 2006.
iii. Mae Dr Andy Breen yn gyd-ymwchwilydd ar SECCI, offer telesgopig sydd yn rhan o long ofod Stereo NASA. Mae disgwyl i’r daith hon ddarparu’r lluniau tri dimensiwn agos cyntaf o’r Haul yn y dyfodol agos.