Delweddu 3D i hwyluso anhawsterau cynllunio ffermydd gwynt

Fferm wynt Cefn Croes

Fferm wynt Cefn Croes

08 Mawrth 2007

Dydd Iau 8 Mawrth 2007
Delweddu 3D i hwyluso anhawsterau cynllunio ffermydd gwynt
Mae See3D, Canolfan Ddelweddu newydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth sydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, yn cydweithio gyda'r cwmni ynni adnewyddol blaengar, West Coast Energy, i ddatblygu meddalwedd delweddu fydd yn cynorthwyo i hwyluso ceisiadau cynllunio am ffermydd gwynt.

Mae delweddu yn offeryn pwerus er mwyn cyflwyno syniadau ac yn defnyddio’r dechnoleg gyfrifiadurol ddiweddaraf er mwyn creu delweddau wedi eu hanimeiddio ar gyfer ymdrwytho llwyr.

Mae modd ‘mewnforio’ data o wahanol fynonellau (CAD, GIS, Mapiau Ordnance Survey, ffotograffiaeth o’r awyr, ayyb) er mwyn creu fideo sydd yn galluogi’r defnyddiwr i gerdded /hedfan o amgylch y safle a chael argraff o sut oedd a sut fydd hi’n edrych, a thrwy hynny gyflymu’r broses o ganiatau caniatad cyllunio i ffermydd gwynt.

Mae’r angen i fodloni yr awdurdodau cyllunio a’r gymuned leol na fydd fferm wynt yn amharu ar yr amgylchedd yn ganolog i ennill caniatad cynllunio. Gall yr ardal ddamcaniaethol lle gellir gweld safle ymestyn hyd at 30 milltir oddi wrthi. Trwy ddefnyddio technegau delweddu 3D gall y carfannau sydd â diddordeb yn y cyllun weld sut olwg fydd arni a pha mor amlwg fydd hi o unrhyw safle ofewn yr ardal ddamcaniaethol hon.

Dywedodd David Neil, Cyfarwyddwr See3D:
“Mae’r cydweithio rhwng West Coast Energy a See3D yn ddatblygiad pwysig ac yn enghraifft dda iawn o ddau gwmni uwch-dechnoleg yng Nghymru yn cydweithio er budd yr amgylchedd a datblygu ffynonellau ynni amgen.”