Llwyddiant Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth

Yr enillwyr Kirsten Davies a Peter Goodwin gyda Yr Athro John Barrett

Yr enillwyr Kirsten Davies a Peter Goodwin gyda Yr Athro John Barrett

16 Mawrth 2007

Dydd Gwener 16 Mawrth 2007
Ysgol Llwyn yr Eos yn dathlu llwyddiant Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth
Mae disgyblion Ysgol Llwyn yr Eos yn dathlu wedi llwyddiant yng nghystadleuaeth Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth gafodd ei threfnu gan Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Tir Glas (IGER).

Yr her a osodwyd i'r disgyblion oedd creu model gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu er mwyn cyfleu pwysigrwydd dŵr i fyd natur, a'r canlyniad oedd llwyddiant ysgubol i ddisgyblion Ysgol Llwyn yr Eos. Derbyniodd Kirsten Davies a Peter Goodwin siec gwerth £150 ar ran yr ysgol oddi wrth Yr Athro John Barrett yn ystod arddangosfa Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth gafodd ei chynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ddydd Llun y 12ed o Fawrth.

Y rhestr lawn o ennillwyr unigol, pob un o Ysgol Llwyn yr Eos, yw: 1af Peter Goodwin a Kirsten Davies a dderbyniodd docyn llyfr gwerth £30 yr un; 2il Chelsea Evans, Ellise Parry a Shane Gornall a dderbyniodd docyn llyfr gwerth £20 yr un; 3ydd Allan Cole, Jamie Standing, Declan Hodson, Jack James, Haydn Davies, Liam James a Cara Boswell a dderbyniodd docyn llyfr gwerth £10 yr un.

Denodd yr arddangosfa wyddoniaeth, sydd yn cael ei threfnu gan staff Sefydliad Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, dros bum cant of ddisgyblion ysgol gynradd o bob cwr o Geredigion. Cefnogaeth ariannol gan gynllun grantiau mân Cynghorau Ymchwil y Deurnas Gyfunol er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth wnaeth y cyfan yn bosibl.  

Y thema eleni oedd ‘Dŵr, dŵr ymhob man….’ ac ymysg yr eitemau roedd arddangosfeydd oedd yn herio’r disgyblion i ystyried cynilo a rheoli’r defnydd o ddŵr, pwysigrwydd dŵr ar gyfer bywyd, a defnyddio dŵr i greu ynni. Roeddent hefyd yn cael eu cymell i astudio dŵr fel cynefin bywyd morol, sut mae gwneud dŵr yn saff i’w yfed, ac hyd yn oed gwers ar dechnegau golchi dwylo – rhywbeth fydd yn siwr o blesio mamau a thadau.

Gwirfoddolwyr o Sefyliad y Gwyddorau Biolegol, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig a Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Tir Glas (IGER), sydd yn cydweithio o dan y faner Canolfan Bio Aber, oedd yn gyfrifol am yr arddangosfeydd.  Roedd Gwylwyr y Glannau yno hefyd gyda’i hymgyrch ‘Seasmart’ sydd yn cymell disgyblion i fod yn ymwybodol o’r peryglon tra’n mwynhau chwaraeon dŵr ar hyd yr arfordir. Daeth nawdd oddi wrth Ty Nant ar ffurf 900 potel o ddŵr (mewn poteli ailgychadwy) gafodd eu gwerthfawrogi’n fawr gan y plant a’r gwirfoddolwyr.