Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr

Tim yr Adran Ffiseg

Tim yr Adran Ffiseg

20 Mawrth 2007

Dydd Mawrth 20 Mawrth 2007
Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr
Gyda'r paratoadau terfynol ar waith ar gyfer y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr sy'n cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Mercher 21 Mawrth, mae 13 o dimoedd yn cynrychioli amrywiaeth fawr o bynciau academaidd wedi eu cadarnhau i gymryd rhan yn y diwrnod.

Ar gyfer y timau buddugol, gall ennill olygu mwy na’r prif wobr o £1500 sy’n cael ei noddi gan RPS Group, neu £500 ar gyfer y stondin orau a’r cyflwyniad gorau wedi eu noddi gan y BBC a’r Fyddin – mae buddugoliaeth ar gyfer enillwyr y gorffennol wedi dod â chynnig swyddi yn ei sgîl.

Mae’r Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr yn profi sgiliau myfyrwyr a’u gwaith tîm ac mae rhaid i bob tim fod yn gyfrifol am gynllunio a chynnal stondin arddangos, yna gwneud cyflwyniad yn Theatr y Ganolfan Celfyddydau ar y thema o ddatblygiad sgiliau myfyrwyr. Bydd pobl sy’n ymweld â’r stondinau yn cael y cyfle i glywed pa fath o beth yw astudio am radd yn Aberystwyth a chlywed am sgiliau sydd gan y myfyrwyr i gynnig i gyflogwyr posib.

Yn ôl Lynda Rollason, trefnydd y gystadleuaeth, y bwriad yw i fod o gymorth i fyfyrwyr sylwi ar y sgiliau academaidd a throsglwyddadwy mae nhw wedi eu datblygu yn ystod eu gyrfa prifysgol ac i hyrwyddo rhain i gyflogwyr, israddedigion eraill a darpar fyfyrwyr prifysgol.

“Trwy gymryd rhan mae’r myfyrwyr yn rhoi’r cyfle perffaith i’w hunan ddatblygu nifer o sgiliau pwysig fel gwaith tîm, cyfathrebu effeithiol, cyflwyniad llafar, dylunio, cynllunio a threfnu.  Bydd y profiad hwn yn ehangu eu CV, cynyddu eu dealltwriaeth o’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdano, ac yn eu rhoi ar flaen y ras am swyddi graddedigion.

“Mae’r holl dimau wedi gweithio yn galed iawn dros y misoedd diwethaf felly dewch os gwelwch yn dda i wylio’r timau ar waith ac i ymweld â’u stondinau.”

“Peidiwch ag anghofio bod y digwyddiad yn cyd-redeg gyda’r Ffair Gyrfaoedd felly dewch i ymweld â’r cyflogwyr sydd wedi gwneud yr ymdrech i ddod yma am y dydd.”

Bydd panel o feiriniaid yn asesu cyflwyniadau y myfyrwyr a’u stondinau arddangos trwy gydol y dydd, a bydd y gystadleuaeth yn dod i uchafbwynt gyda seremoni wobrywo yn dechrau am 4.15 y prynhawn, pan fydd enillwyr y tri categori yn cael eu cyhoeddi:

Y Gwobrau:
Tim Buddugol - £1500 wedi ei noddi gan Grwp RPS

Cyflwyniad Gorau - £500 wedi ei noddi gan BBC Cymru

Stondin Gorau - £500 wedi ei noddi gan y Fyddin

Bydd yr holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yn derbyn tocyn llyfr gwerth £20.  Yr adranau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yw; Y Gyfraith, Cyfrifiadureg, Gwyddor Daear Amgylcheddol, Mathemateg, Saesneg, Gwyddorau Biolegol, Gwleidyddyiaeth Rhyngwladol, Daeryddiaeth Dynol, yr Ysgol Reolaeth a Busnes, Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear a Ffiseg.

Eleni, mae’r holl dimau wedi eu gefeillio gyda chwmniau, a’r gobaith yw y bydd y cyflogwyr yn gweithio gyda’r timau ac yn canolbwyntio’r sylw ar y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Ar yr un diwrnod â’r Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr, bydd Ffair Gyrfau yn cael ei chynnal lle bydd amryw o gyflogwyr yn dod â stondin ac yn barod i drafod gyda ymwelwyr yr hyn mae nhw’n chwilio amdano pan yn cyflogi.  Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar rannu gwybodaeth yn hytrach na recrwtio.

Bydd nifer o gyflogwyr lleol yn cerdded o gwmpas y ffair yn ystod y dydd yn cwrdd ac sgyrsio gyda myfyrwyr Aberystwyth.  Bwriad arall y ffair yw pwysleisio pwysigrwydd profiad gwaith i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.  Bydd dwy stondin yn y ffair wedi eu neulltio ar gyfer hyn – Cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant a GOWales.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 9 y bore ac yn dod i ben am 5 y prynhawn.

Trefn Cyflwyniadau y Myfyrwyr:

Theatr

9.15                                                     Cyflwyniad

9.30                                                     Y Gyfraith

9.45                                                     Cyfrifiadureg

10.00                                                   Gwyddorau Daear Amgylcheddol

10.15                                                   Mathemateg

Saib

11.20                                                   Saesneg           

11.35                                                   Gwyddorau Biolegol

11.50                                                   Gwleidyddiaeth Rhyngwladol

12.05                                                   Daearyddiaeth Dynol

12.20                                                   Ysgol Rheolaeth a Busnes

Cinio                                             

1.45                                                     Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes

2.00                                                     Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

2.15                                                     Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear

2.30                                                     Ffiseg                          

4.15                                                     Seremoni Gwobrwyo

5.00                                                     Diwedd