Cynnig i gyfuno â IGER

Byddai Sefydliad y Gwyddorau Gwledig yn rhan bwysig o'r ganolfan ymchwil newydd sydd wedi ei chynnig

Byddai Sefydliad y Gwyddorau Gwledig yn rhan bwysig o'r ganolfan ymchwil newydd sydd wedi ei chynnig

21 Mawrth 2007

Dydd Mercher 21 Mawrth 2007
Newid gwyddor y tir yng Nghymru a'r tu hwnt
Mae Prifysgol Cymru Aberystwyth (PCA) a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnegol a Biolegol (CYGBB) wedi cynnal trafodaethau pellach i ystyried a ddylai grym llywodraethu ac asedau safleoedd Sefydliad Ymchwil Tir Glas a'r Amgylchedd (IGER) yng Nghymru gael eu trosglwyddo i sector Prifysgolion Cymru. 
Daeth Prifysgolion Aberystwyth a Bangor (PCB), IGER, CYGBB, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru at ei gilydd mewn cyfarfod yng Nghaerdydd ar 16 Mawrth 2007 i ystyried y ffordd ymlaen ac amserlen fras.

Mae PCA, PCB ac IGER wedi cynnig bod y cymysgedd unigryw o fedrau, adnoddau a galluoedd sydd ar gael yn PCA, PCB ac IGER ym Mhlas Gogerddan yn dod at ei gilydd i greu canolfan gystadleuol ar gyfer rhagoriaeth wyddonol, arloesi a budd economaidd ar gyfer y sector tir pori rhyngwladol ac i feysydd eraill. Mae CYGBB wedi cytuno i ystyried y cynlluniau yn ofalus, ac fe fyddant yn cael eu trafod ymhellach gan gyngor CYGBB ym mis Ebrill. Er bod CYGBB wedi cyhoeddi cynlluniau i IGER North Wyke gael ei drosglwyddo i reolaeth Rothamsted Research, ni ddisgwylir y byddai hynny yn eu hatal rhag parhau â gwaith cydweithredol cyfredol gydag ymchwilwyr yng Nghymru, nac atal gwaith cydweithredol yn y dyfodol gydag ymchwilwyr yng Nghymru a’r tu hwnt.

Mae pob carfan yn disgwyl y bydd y trafodaethau a’r prosesau cymhleth yn mynd rhagddynt ar fyrder, gan adeiladu ar sail y trafodaethau cadarnhaol. Os ceir cytundeb mewn egwyddor, bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno i Gyrff Llywodraethu’r sefydliadau partneriaethol ar gyfer eu sêl bendith. 

Dywedodd yr Athro Chris Pollock, Cyfarwyddwr IGER, “Rwyf wrth fy modd o weld y cynnydd a wnaed heddiw. Dyma gychwyn cadarn i daith hir, ond fe fydd y cyfleoedd o ran gwyddoniaeth ac arloesi a fydd yn codi pan fyddwn yn cyrraedd pen y daith yn hynod fanteisiol i Gymru a gweddill gwledydd Prydain”.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Aberystwyth, ‘Dyma gyfle heb ei ail, sy’n bwrw ymlaen o’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter sydd eisoes ar waith rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, cyfle i greu canolfan o’r radd flaenaf er mwyn cynnal gwaith ymchwil arloesol yn y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a thirol yng Nghymru”.