Cefnogaeth Cynnig Boreuol i'r Bartneriaeth Ymchwil

Cynhaliwyd lansiad Caerdydd y Bartneriaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cynhaliwyd lansiad Caerdydd y Bartneriaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mawrth 2007

Dydd Mawrth 20 Mawrth 2007
Cefnogaeth Cynnig Boreuol i'r Bartneriaeth Ymchwil
Mae Cynnig Boreuol (Early Day Motion) sydd yn hyrwyddo Partneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgol Cymru Aberystwyth a Prifysgol Cymru Bangor wedi derbyn cefnogaeth dros 60 o aelodau seneddol cyn lansiad y Bartneriaeth yn y Senedd heddiw, dydd Mawrth 20 Mawrth.

Cynigiwyd y Cynnig Boreuol gan Betty Williams AS ac mae'n nodi fod “y Tŷ hwn yn cymeradwyo sefydlu’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter newydd gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Bangor, fydd yn ychwanegiad sylweddol i allu ymchwil a datlbygu y Deyrnas Gyfunol yng nghyd-destun her ecolegol bwysig y newid yn yr hinsawdd, a’r her ym meysydd biotechnoleg a gwyddoniaeth y gofod; ac yn gofyn ar i’r Llywodraeth gynorthwyo i gynnal safle y Deyrnas Gyfunol fel arweinydd byd mewn gwyddoniaeth, technoleg a diwylliant drwy gefnogi Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth a Bangor.

Bydd Gweinidog a Adran Diwydiant a Masnach, Malcolm Wicks AS yn annerch yn lansiad Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth a Bangor.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd cyn y lansiad:
“Mae gan y ddau sefydliad hanes gwych o waith ymchwil blaengar. Bydd y Bartneriaeth yn ein galluogi i ddatblygu proffil rhyngwladol mwy amlwg.”

Trenwyd y digwyddiad gyda chymorth Betty Williams AS a Mark Williams AS, aelodau seneddol etholaethau’r ddwy Brifysgol.