Thema Casino yn talu i'r Mathemategwyr

Tim buddugol Mathemateg gyda Douglas Lamont o RPS Group (chwith pellaf) a trefnwraig y digwyddiad Lynda Rollason (3ydd o'r dde)

Tim buddugol Mathemateg gyda Douglas Lamont o RPS Group (chwith pellaf) a trefnwraig y digwyddiad Lynda Rollason (3ydd o'r dde)

28 Mawrth 2007

Dydd Mercher 28 Mawrth 2007
Thema Casino yn talu i'r Mathemategwyr
Coronwyd y Mathemategwyr yn bencampwyr Cystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr 2007 ddydd Mercher 21 Mawrth gan ennill y brif wobr o £1500 a noddwyd gan RPS Group.

Adeiladodd y tîm, JennyDavies, Ed Davies, Ellen Jones, Zoe Dunn a Sally Thompson, stondin ar thema Casino a gafodd ei ysbrydoli gan y ffilm Ocean 11. Roedd yn cynnwys nifer o gemau bwrdd a gêm o Poker a barodd trwy gydol y dydd gyda arian siocled fel gwobrau. Yn eu cyflwyniad galwyd ar sgiliau mathematgol aelodau'r tîm er mwyn datrys trosedd mewn Casino.

Ar ôl cyhoeddi’r enillwyr dywedodd Ed:
“Rydyn ni wrth ein boddau. Doedden ni ddim yn disgwyl gwneud o gwbl, ac mae’r gwaith caled i gyd wedi talu ar ei ganfed. Sylfaen ein cyflwyniad oedd tîm o athrylithoedd troseddol, pob un gyda sgil gwahanol ac yna heddwas oedd yn gorfod dilyn cynllun gyda’r tim o fathetegwyr. Thema ein stondin oedd Casino ac roedd ganddon ni gem poker a barodd trwy gydol y dydd, roedd yn eithaf tebyg i thema ffilm Ocean 11.  Roedd ganddon ni nifer fawr o gemau trwy’r dydd fel countdown a lot fawr o arian siocled fel gwobrau! Rydyn ni wedi cael llawer iawn o hwyl ac mae wedi bod yn ddiwrnod bythgofiadwy.”

Enillwyd y wobr am y Cyflwyniad Gorau a £500, a noddwyd gan y BBC, gan yr adran Saesneg. Aelodau’r tim oedd Fern Daish, Graham Reynolds, Hannah Chmielewska, Kathleen Taylor, Laura Parrack, Leona Smart, Luke Robinson a Sarah Payne.

Enillwyd y wobr am y Stondin Orau a £500, a noddwyd gan y Fyddin, gan dîm o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol; Jonathon Rass, David Williams Parry, Mbeledogu Chukwudumebi a Ian Paynter.

Mae’r digwyddiad, a gafodd ei gynnal am yr unfed tro ar ddeg eleni, wedi bod yn dipyn o lwyddiant ac wedi meithrin diddordeb mawr ymysg myfyrwyr a staff.  Dywedodd Cadeirydd y Beirniaid, Michael Hunting o Whitebeam Connections Ltd:
 “Rydyn ni wir yn mwynhau’r gystadleuaeth, dyna pam mae cymaint ohonon ni’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Llongyfarchiadau mawr i’r timoedd am eu hymdrechion ac am eu cyflwyniadau a’u stondinau. Dyma’r stondinau gorau i ni eu gweld yn y gystadleuaeth! Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig ac mae’n wych gweld yr holl fyfyrwyr yn ymwneud gyda’r cyhoedd.”

Roedd beirniaid y Gystadleuaeth Sgiliau Myfyrwyr eleni yn cynnwys tri cynfyfyriwr o Aber, Gareth Davies a astudiodd y Gyfraith ac sydd nawr yn gweithio i Veredus, Andrew Evans oedd hefyd yn astudio’r Gyfraith ac sydd nawr yn gweithio i HBJ Gateley Wareing, ac Emily Hayes fu’n astudio yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac sydd nawr yn gweithio i brif noddwyr y digwyddiad, RPS Group.  Y pedwar beirniad arall oedd Marline Freckleton o BBC Cymru, Maggie Hill o’r Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Cadeirydd Michael Hunting o Whitebean Connections Ltd a John Johnston o Amboeba Publications.

Roedd digwyddiad eleni hefyd yn ddiwedd cyfnod. Hon oedd y flwyddyn olaf i Lynda Rollason, sydd wedi bod yn gweithio ar y gystadleuaeth ers 9 mlynedd, wneud y gwaith trefnu. Diolchodd yr Athro Noel Lloyd am ei brwdfrydedd a’i gwaith caled a cyflwynodd tusw o flodau iddi, a cyflwynodd Douglas Lamon o RPS Group botel o champage pinc iddi.