Hyrwyddo llenyddiaeth gyfoes

Chwith i'r Dde. Francesca Rhydderch, golygydd New Welsh Review, Yr Athro Jem Poster, Athro Ysgrifennu Creadigol PCA, a Richard Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Parthian.

Chwith i'r Dde. Francesca Rhydderch, golygydd New Welsh Review, Yr Athro Jem Poster, Athro Ysgrifennu Creadigol PCA, a Richard Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Parthian.

28 Mawrth 2007

Dydd Mercher 28 Mawrth 2007
Hyrwyddo llenyddiaeth gyfoes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth
Mae Adran Saesneg Prifysgol Cymru, Aberyswtyth wedi sefydlu cytundeb cydweithio gyda'r cyhoeddiad llenyddol chwarterol New Welsh Review a'r cyhoeddwr annibynnol Cymreig llwyddiannus Parthian, i godi proffil llenyddiaeth gyfoes ofewn y Brifysgol a thu hwnt.
Dathlwyd y cytundeb newydd mewn derbyniad yn yr adran nos Fawrth 20 Mawrth, ac mae’n golygu fod gan y New Welsh Review a Parthian bellach swyddfa ar gampws Penglais y Brifysgol. Un agwedd gyffrous o’r cytundeb yw y bydd yn hwyluso’r gwaith o chwilio am leoliadau gwaith gyda’r ddau bartner er budd y myfyrwyr sydd ar gyrsiau ysgrifennu creadigol.

Mewn araith i groesawu’r datblygiad a’r bobl sydd yn ymwneud ag ef, nododd yr Athro Jem Poster, Athro Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg, bwysigrwydd Aberystwyth a’r Brifysgol fel canolfan o fenter lenyddol, ac awgrymodd yn byddai’r enw da hwn yn tyfu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Ymysg y bobl oedd yn bresennol yn y derbyniad roedd Francesca Rhydderch, golygydd New Welsh Review; Richard Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Parthian; Sue Fisher, Rheolwr Datblygu a Gweinyddol, New Welsh Review; Jasmine Donohaye, Golygydd Ffuglen a Barddoniaeth Parthian; Yr Athro Tim Woods, Pennaeth yr Adran Saesneg; a’r Athro Poster.