Bodlonrwydd myfyrwyr o 90%

Y Ganolfan Ddelweddu newydd ar gampws Penglais

Y Ganolfan Ddelweddu newydd ar gampws Penglais

12 Medi 2007

Dydd Mercher 12 Medi 2007
Bodlonrwydd myfyrwyr o 90% yn gosod Aber ymysg y 10 uchaf ym Mhrydain a'r gorau yng Nghymru
Mae bodlonrwydd myfyrwyr â Phrifysgol Aberystwyth mor uchel ac y bu erioed yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, dydd Mercher 12 Medi 2007

Ar draws Prydain mae Aberystwyth yn 10ed gyda chymhareb bodlonrwydd o 90%, a'r gorau yng Nghymru o dipyn. Y cyfartaledd ar gyfer y Sector Addysg Uwch yw 82%.

10 Uchaf Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr a chanran y myfyrwyr bodlon.
i. Y Brifysgol Agored 95%
ii. Prifysgol St Andrews 94%
iii. Prifysgol Buckingham 93%
iv. Y Coleg Cerdd Gogleddol Brenhinol 93%
v. Prifysgol Rhydychen 92%
vi. Coleg Birkbeck 92%
vii. Prifysgol Caerwysg (Exeter) 91%
viii. Coleg Prifysgol St Mary’s 91%
ix. Coleg Prifysgol Harper Adams 91%
x. Prifysgol Aberystwyth  90%
Prifysgol Caerlyr 90%
Yr Academi Gerdd Frenhinol 90%

Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rydym wrth ein boddau fod ein myfyrwyr unwaith eto eleni wedi cydnabod yr awyrgylch ddiogel, hardd a chroesawgar mae Aberystwyth yn ei gynnig, ymrwymiad aelodau staff, y cyrsiau academaidd cyffrous a’r ysbryd gymunedol hyfryd sydd yn cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn Aberystwyth yn un mor gofiadwy i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.”

“Rydym wedi bod yn agos at y brig ym mhob arolwg bodlonrwydd myfyrwyr hyd yma, ac mae hyn yn destun cryn falchder i bawb yma. Ar yr un pryd y nod yw parhau i wella’r profiad myfyriol yma ym mhob agwedd. Mae ein myfyrwyr, a’r rhai fydd yn ymuno gyda nhw yma yn y dyfodol, yn gwybod nawr eu bod yn mwynhau’r amgylchedd fyfyrio orau sydd gan y Deyrnas Gyfuno i’w gynnig,” ychwanegodd.

Ym mis Awst 2007 derbyniodd Prifysgol Aberystwyth y sgôr uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl The Times Good University Guide 2008. Roedd yn gydradd gyntaf gyda pedair prifysgol arall, St Andrews, Loughborough, East Anglia a Chaerlŷr.

Mae astudiaethau diweddar eraill yn adrodd yr un hanes o fodlonrwydd uchel ymysg myfyrwyr Aberystwyth. Ym Mehefin 2007 cyhoeddodd y wefan accommodationforstudents.com taw Aberystwyth oedd hoff dref brifysgol y Deyrnas Gyfuno yn dilyn astudiaeth o 34,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr. Yn ôl y cyhoeddiad The Good University Guide ymddangosodd ym mis Gorffennaf 2007, roedd Aberystwyth yn 8ed.