Lansio Canolfan Iaith

Logo

14 Medi 2007

Dydd Gwener 14 Medi 2007
Lansio Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
Ddydd Sadwrn 15 Medi agorwyd Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru a gafodd ei lansio'n swyddogol gan Ddysgwraig y Flwyddyn, Mrs Julie MacMillan. Cynhaliwyd  yr agoriad yn Neuadd Joseph Parry, 10 Maes Lowri, Aberystwyth  am 11 y bore.

Mae'r Ganolfan, sydd yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn un o chwe chanolfan rhanbarthol sydd wedi eu sefydlu fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion.

Rôl y ganolfan yw i  gydlynu’r ddarpariaeth i ddysgwyr ar draws Ceredigion, Powys a Meirionnydd, ac er mwyn gwneud hynny bydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cyngor Sir Ceredigion, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, a Choleg Meirion-Dwyfor yn ogystal â mudiadau cenedlaethol  a lleol.

Er mai ardal wledig yw’r rhanbarth hwn, mae gwersi Cymraeg i Oedolion yn cael eu cynnal mewn bron i 60 o drefi a phentrefi ledled y Canolbarth, gyda bron i 70 o diwtoriaid yn dysgu 3,000 o ddysgwyr. Dysgir pob lefel, o ddechreuwyr pur i siaradwyr rhugl, a ceir amrywiaeth o ddulliau dysgu, o gyrsiau dwys i rai mwy hamddenol, o Sadyrnau Siarad i gyrsiau preswyl.

Noddwyd y cynllun gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Siôn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan;
“Mae dysgu Cymraeg yn hwyl, ac yn agor nifer o ddrysau newydd – yn y teulu, y gwaith a’r gymuned. Edrychwn ymlaen at groesawu nifer o ddysgwyr newydd y flwyddyn hon, a chefnogi pob dysgwr yn y rhanbarth yn eu hymdrech i ddysgu Cymraeg yn rhugl. Ein gweledigaeth yw gweld llawer mwy o bobl, ym mhob rhan o’r Canolbarth, yn croesi’r bont i ddod yn siaradwyr rhugl.”

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Aberystwyth;
“Mae lansio’r Ganolfan newydd hon yn garreg filltir bwysig ac yn gwbl gyson gyda chenhadaeth y Brifysgol i hyrwyddo ac ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i fywyd Cymraeg a Chymreig yn ogystal â bod yn elfen bwysig o’n dymuniad i ehangu mynediad i Addysg Uwch.”

“Mae’n ddatblygiad sydd yn plethu’n dda gyda agweddau eraill o’n darpariaeth, megis y Radd Allanol a rhes o fodiwlau a chyrsiau israddedig ac uwchraddedig, sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg,” ychwanegodd.

Dywedodd John Griffiths AC, Is-Weinidog Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru;
‘Mae gan y Canolfannau Cymraeg i Oedolion rôl bwysig i’w chwarae wrth greu Cymru ddwyieithog. Rwy’n siwr y bydd gan y Ganolfan newydd yn Aberystwyth effaith bositif ar y ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar draws Canolbarth Cymru.’
 
Os ydych am gysylltu â’r Ganolfan am wybodaeth am gyrsiau Cymraeg yn eich ardal chi, yna ffoniwch 0800 8766975, neu ebostiwch y Ganolfan ar cymraegioedolion@aber.ac.uk. Gallwch hefyd ddod o hyd i gwrs yn eich ardal ar wefan y Ganolfan, sef www.aber.ac.uk/cymraegioedolion.

Fel rhan o’r seremoni cyflwynodd Mrs MacMillan englyn o waith y Prifardd Idris Reynolds, sydd wedi ei ysgythru ar lechen, i’r Athro Noel Lloyd i gofnodi’r digwyddiad.
Diwedd.
Rhagor o Wybodaeth:
Dafydd Morse, Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, Prifysgol Aberystwyth
01970 628461 dfm@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk