Ysgol haf Oman

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

21 Awst 2008

Dydd Iau 21 Awst, 2008
Myfyrwyr o Oman yn dathlu yn Aberystwyth

Mae Ysgol Haf arloesol ar iaith a llenyddiaeth Saesneg a ddatblygwyd ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Nizwa yn Oman, yn dathlu ‘graddedigion' cyntaf ddydd Gwener 22 Awst. 

Mae hanner cant o  fyfyrwyr benywaidd o Oman sydd ar ei trydedd blwyddyn o gwrs gradd pedair blynedd mewn Saesneg ac Addysg, wedi treulio wyth wythnos yn Aberystwyth er mwyn gwella eu sgiliau iaith ac astudio gweithiau gan Blake, Coleridge, Keats, Yeats, Wordsworth a T S Elliot.

Yn ogystal mae rhaglen gymdeithasol amrywiol wedi rhoi cyfle iddynt ymweld â llefydd o ddiddordeb diwylliannol a hanesyddol yng Nghymru a datblygu eu sgiliau ieithyddol drwy gyfarfod â phobl leol.

Gymaint fu llwyddiant y rhaglen fel bod bwriad i gynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth ymweld ag Oman ym mis Medi er mwyn cwblhau trefniadau allai weld hyd at 250 o fyfyrwyr o Oman yn teithio i Aberystwyth i astudio yn ystod haf 2009. 

Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae'r Ysgol Haf yn garreg filltir bwysig yn y berthynas newydd hon rhwng Aberystwyth a Swltaniaeth Oman, a’r Dwyrain Canol yn gyfan.  

“Mae penderfyniad Prifysgol Nizwa i anfon 50 o’i myfyrwragedd gorau yn brawf o enw da Prifysgol Aberystwyth ar draws y byd am ragoriaeth safon y dysgu a’r gofal mae ein myfyrwyr yn ei dderbyn. Mae wedi bod yn brofiad pwysig i’r ddwy Brifysgol.  

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud yr Ysgol Haf hon yn llwyddiant ysgubol. Gallwn nawr edrych ymlaen yn hyderus at ddatblygu ffyrdd eraill arloesol o gydweithio gyda Phrifysgol Nizwa,” ychwanegodd.

Dywedodd Saoud Muthkhour Al-Jufaili, Is-Ganghellor Gweinyddiaeth a Chyllid Prifysgol Nizwa:
“Mae’r Ysgol Haf yn ddatblygiad pwysig i Brifysgol Nizwa wrth iddi edrych am ffyrdd o ehangu addysg ddiwylliannol ac academaidd y myfyrwyr mewn ffyrdd fydd yn dylanwadu ar broffesiynau’r wlad ac yn codi ymdeimlad o hunan ymwybyddiaeth genedlaethol o safle Oman o fewn y gymuned ryngwladol.

“Rydym yn rhagweld y bydd yr Ysgol Haf yn raglen gyfnewid ddiwylliannol, a fydd ymhen amser yn gosod sylfaeni cadarn ar gyfer perthynas gymdeithasol a diwylliannol bellgyrhaeddol o fudd i’r ddau sefydliad.

“Rydym yn sicr bod gan y myfyrwyr o Nizwa lawer i’w ddysgu o’r amgylchedd academaidd a diwylliannol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae Oman ar drothwy datblygiad sylweddol o safbwynt isadeiledd ac mae angen gweithlu proffesiynol mwy. Rydym hefyd yn chwilio am berthynas ddiwylliannol gyflawn ac aeddfed gyda’r gymuned ryngwladol ehangach.

“Am nifer o resymau modern ac hanesyddol mae’r Deyrnas Gyfunol yn ddewis naturiol er mwyn hwyluso hyn. Mae ysgol haf ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio Saesneg yn fan dechrau addas  ar gyfer perthynas hir dymor gan fod hyn yn mynd i wella sgiliau ieithyddol hanfodol ar gyfer nifer o broffesiynau, ac mae astudio llenyddiaeth ochr yn ochr gyda iaith yn hyrwyddo cysylltiadau a dealltwriaeth ddiwylliannol ddyfnach,” ychwanegodd.

Nododd Saoud Muthkhour Al-Jufaili ei werthfawrogiad o gyfraniad Llysgennad Prydain yn Oman, Dr Noel Guckian, sydd yn raddedig o Aberystwyth, a Mr John Goddard, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Llysgenhadaeth Prydain yn Oman, at sefydlu’r Ysgol Haf.

Ac mewn ymateb i gwestiwn am y tywydd diflas mae Aberystwyth wedi’i fwynhau yn ystod eu arhosiad, roedd ymateb athro a chydlynydd yr Ysgol Haf, Dr Nath Aldalala’a, sydd hefyd yn gynfyfyriwr o Aber, yn annisgwyl o gadarnhaol. Dywedodd; “Mae’n ryddhad cael dianc rhag gwres llethol yr haf yn Oman lle mae’r tymheredd yn cyrraedd 50 gradd Celsius yn gyson!” 

Bydd y myfyrwyr o Oman yn derbyn ‘Tystysgrif Presenoldeb’ mewn seremoni brynhawn Gwener 22 Awst am 2 o’r gloch yn ystafell C4 yn Adeilad Hugh Owen, campws Penglais. Bydd y myfyrwyr yn derbyn credydau am ei gwaith ar y cwrs a fydd yn cael eu hychwanegu at ei cymhwyster gradd yn Oman.

Prifysgol Nizwa
Mae Prifysgol Nizwa yn ninas Nizwa, sydd yn nhalaith Ad Dakhiliyah o Oman, tua 140 km (1.5 awr) o’r Brifddinas Muscat. Prifysgol breifat nid-er-elw yw ac mae ganddi 5,500 o fyfyrwyr, 92% ohonynt yn ferched. Cafodd ei sefydlu yn 2004 yn dilyn gorchymyn gan Swltan y wlad, Ei Fawrhydi Sultan Qaboos bin Said, yn galw ar i’r sector breifat gyfrannu at addysg uwch yn Oman. Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn buddsoddi £80 mewn campws newydd ar gyrion y ddinas. Poblogaeth dinas Nizwa yw tua 70,000.  

Oman
3.2m yw poblogaeth yr Oman ac mae’n ffinio gyda Emiradau Arabaidd Unedig, Gweriniaeth Yemen a Saudi Arabia. Mae iddi 9 talaith. Mae canolbarth y wlad yn anialwch caregog, gyda cadwyn o fynyddoedd i’r gogledd (al Jebel al Akhdar) ac ar hyd arfordir y de-ddwyrain, lle mae dinasoedd mwyaf y wlad.  Olew yw’r prif gynnyrch, 95% o holl allforion y wlad. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r wlad wedi canolbwyntio ar leihau ei dibyniaeth ar olew drwy ddatblygu twristiaeth a chronfeydd nwy naturiol. Yr iaith swyddogol yw Arabeg ond siaredir Swahili, Urdu a Saesneg yno hefyd. Y Rial yw arian y wlad.