Ymarfer cyn dechrau'r tymor

Adeilad Carwyn James, cartref yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff

Adeilad Carwyn James, cartref yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff

18 Awst 2008

Mae carfan rygbi Scarlets Llanelli yn ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon, tan ddydd Iau 21 Awst.

Yn ystod yr ymweliad bydd aelodau carfan y Scarlets yn defnyddio adnoddau campfa a nofio gwych y Brifysgol ar gampws Penglais, a chaeau chwarae rhagorol y Brifysgol ym Mlaendolau.

Yn o gystal bydd adnoddau Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff y Brifysgol yn Adeilad Carwyn James ar gael i chwaraewyr, hyfforddwyr a'r tîm rheoli. Mae'r adnoddau yn cynnwys 10 labordy dysgu ac ymchwil arbenigol a siambr amgylcheddol sydd yn galluogi athletwyr i ymarfer mewn amgylchiadau poeth, oer neu llaith.

Dywedodd yr Athro David Lavallee, Pennaeth yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff ac awdurdod byd ar seicoleg mewn chwaraeon:
“Rydym wrth ein boddau fod Scarlets Llanelli wedi dewis Prifysgol Aberystwyth fel lleoliad ar gyfer ei gwersyll ymarfer cyn dechrau’r tymor.  Mae’r adnoddau yma yn Aberystwyth gyda’r gorau yng Nghymru ac yn cynnig amgylchedd ddelfrydol wrth i’r garfan baratoi ar gyfer y tymor newydd.”
 
Mewn datblygiad arall mae cynlluniau yn cael eu cwblhau fydd yn galluogi dau fyfyriwr ar y cwrs BSc Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff i weithio gyda Scarlets Llanelli yn ystod y tymor newydd gan ddarparu cymorth gwyddor chwaraeon. 

Esboniodd yr Athro Lavallee:
“Roedd yn Scarlets yn awyddus i ddarparu profiad gwaith i rai o’n myfyrwyr. O ganlyniad i hyn rydym yn gobeithio y bydd dau fyfyriwr 2il neu 3edd flwyddyn yn cyfuno eu hastudiaethau yma yn Aberystwyth gyda sesiynau yn gweithio gyda’r tim ym Mharc y Scarlets.

“Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn y maent yn ei ddysgu mewn darlithoedd tra’n gweithio gyda athletwyr proffesiynol wrth iddynt ymdopi gyda galwadau cystadlu cyson ar y safon uchaf,” ychwanegodd. 

Ers ei lansio yn 2002 mae’r Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff wedi ennill enw rhagorol am safon dysgu a ymchwil. Mae’r radd BSc Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn cynnig sail academaidd cadarn mewn seicoleg chwaraeon, ffisioleg a biomecaneg.  

Mae’r cyhoeddiad diweddar taw Prifysgol Aberystwyth fydd cartref Cangen Cymru i Gymdeithas Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (The British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES)), y corff proffesiynol yn y Deyrnas Gyfunol, yn dystiolaeth bellach o’r enw da hwn.  Yn o gystal cafodd Prifysgol Aberystwyth ei dewis i gynnal Cynhadledd Myfyrwyr BASES yn 2010. 

Bydd Scarlets Llanelli ar gael i dynnu lluniau, llofnodi ac ateb cwestiynau ar gaeau chwarae Blaendolau Prifysgol Aberystwyth fore Iau 21ain Awst rhwng 10.15 a 11.15 o’r gloch.