Esbonio cwymp scafell iâ

Yr Athro Neil Glasser

Yr Athro Neil Glasser

07 Chwefror 2008

Dydd Iau 7 Chwefror 2008
Esbonio cwymp sgafell iâ yn Antarctica
Pan gwympodd Sgafell Iâ Larsen B yn Antartica i'r môr yn sydyn yn 2002, roedd yn ymddangos mai newid yn yr hinsawdd oedd yn gyfrifol, a thybiwyd bod diflaniad y sgafell hir ymylol hon yng ngogledd orllewin Môr Weddel yn un o gyfres o ddigwyddiadau o ganlyniad i Gynhesu Byd-eang.

Fodd bynnag mewn papur a gyhoeddir yn y Journal of Glaciology, mae'r Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth, a fu’n gweithio fel Ysgolor Fulbright yn UDA gyda Dr Ted Scambos o Ganolfan Data Iâ ac Eira Genedlaethol Prifysgol Colorado, yn cynnig esboniad gwahanol.

“’Dyw cwymp y sgafell iâ ddim mor syml ag yr oeddem ni’n ei feddwl yn y lle cyntaf,” meddai’r Athro Glasser, prif awdur y papur. “Gan fod llawer o ddŵr tawdd wedi ymddangos ar y sgafell iâ cyn iddi gwympo, roeddem ni wastad wedi tybio mai cynhesu yn nhymheredd yr awyr oedd yn gyfrifol. Ond mae ein hastudiaeth newydd ni’n dangos nad hinsawdd yn unig sy’n rheoli’r ffordd mae’r sgafelli yn torri. Mae nifer o ffactorau atmosfferig, cefnforol a rhewlifol eraill i’w hystyried hefyd. Er enghraifft, mae lleoliad a bylchiad holltau fel crefasau ac agennau ar y sgafell iâ yn bwysig iawn hefyd oherwydd y rhain sy’n pennu cryfder neu wendid y sgafell iâ.”

Mae’r astudiaeth yn bwysig oherwydd fod cwymp sgafell iâ yn cyfrannu at godi lefel y môr yn fyd-eang, er taw yn anuniongyrchol y mae hyn yn digwydd. “Dyw’r sgafelli iâ eu hunain ddim yn cyfrannu’n uniongyrchol at godi lefel y môr; gan eu bod nhw’n arnofio ar y cefnfor maen nhw eisoes yn dadleoli’r un cyfaint o ddŵr. Ond pan fydd y sgafelli iâ yn cwympo, mae’r rhewlifoedd sy’n eu bwydo yn cyflymu ac yn teneuo, felly mae rhagor o iâ yn cyrraedd y cefnforoedd,” esboniodd yr Athro Glasser.

Mae’r Athro Glasser yn cydnabod fod gan gynhesu byd-eang ran bwysig yn y cwymp, ond mae’n pwysleisio bod hyn yn un yn unig o blith nifer o ffactorau cyfrannol, ac er gwaethaf natur ddramatig y chwalfa yn 2002, roedd arsylwadau rhewlifwyr a modelu rhifiadol gan NASA a’r Ganolfan Fodelu ac Arsylwi Polar (Centre of Polar Observation and Modelling) yn dangos bod y sgafell iâ wedi bod mewn perygl ers degawdau. “Mae’n debygol fod dŵr tawdd o ganlyniad i gynydd yn nhymheredd y cefnforoedd, neu hyd yn oed ddirywiad graddol i fás iâ’r Penrhyn dros y canrifoedd, wedi arwain at dranc sgafell Larsen”, dywedodd cydawdur y papur Ted Scambos.

Mae ffocws yr astudiaeth nawr yn symud at sgafell Larsen C, ardal sydd yn fwy trwchus o lawer ac sydd i’w gweld yn fwy sefydlog, ac er nad oes unrhyw arwyddion ar hyn o bryd fod y sgafell hon yn debygol o gwympo, bydd papur yr Athro Glasser yn gyfraniad pwysig i unrhyw astudiaeth yn y dyfodol. Mae’r diddordeb eang sydd wedi’i ddangos yn y papur hefyd yn hwb i obeithion yr Athro Glasser o godi arian i deithio i Antartica eleni i gynnal peth o’i ymchwil yn y maes.

Y Journal of Glaciology yw un o’r cyfnodolion mwyaf dylanwadol yn y maes, ac mae’n arwydd o barch y cyfnodolyn at ymchwil yr Athro Glasser a’r tîm fod y papur wedi cael ei brysuro drwy’r broses gyhoeddi a’i osod yn flaenllaw fel prif erthygl yn rhifyn cyntaf 2008.

Yr Athro Neil Glasser
Mae Neil Glasser yn Athro Daearyddiaeth Ffisegol yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys rhewlifeg, ac yn fwy penodol y berthynas rhwng rhewlifoedd, llieiniau iâ a’r hinsawdd. Mae ganddo brofiad helaeth o waith maes ar rewlifoedd ar yr Ynys Las (Greenland), Antarctig, Patagonia, Svalbard, Gwlad yr Iâ, Nepal a Peru. Cafodd y gwaith yn yr astudiaeth hon ei wneud yn 2006/7 tra ei fod yn Ysgolor Fulbright a Chymrawd Ymchwil y Sefydliad Cydweithredol Ymchwil i’r Gwyddorau Amgylcheddol (Cooperative Institute for Research in Environmental Sciences (CIRES)) yng Nghanolfan Data Iâ ac Eira Genedlaethol yn Boulder, Colorado. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn Ebrill 1999 a cafodd ei ddyrchafu’n Athro yn 2006.

Journal of Glaciology
Cyhoeddir y Journal of Glaciology gan y Gymdeithas Rewlifegol Ryngwladol ac mae’n ymddangos bob chwarter. Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1936 er mwyn rhoi ffocws i unigolion sydd â diddordeb mewn agweddau ymarferol a gwyddonol o eira a iâ. Ceir manylion llawn ar y wefan http://www.igsoc.org/journal/.