Gwobr Werdd

Alan Stephens a Jim Wallace

Alan Stephens a Jim Wallace

01 Chwefror 2008

Gwobr werdd
Mae cynllun ailgylchu bagiau lelog hynod lwyddiannus y Brifysgol wedi derbyn clod uchel gan Gwobrau Aberystwyth Gyntaf, cynllun gwobrwyo newydd sydd yn cydnabod ymarfer da ac ardderchowgrwydd sydd wedi ei arddangos gan unigolion, sefydliadau neu fusnesau yn Aberystwyth.

Cafodd y cynllun bagiau lelog ei gyflwyno i holl neuaddau preswyl ar y campws ym Medi 2007 yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn y neuaddau glan môr. Gosodwyd 200 daliwr sachau gwastraff i'w ailgylchu yng ngheginau a cafwyd canlyniadau gwych gyda dros 1.75 tunnell o wastraff yn cael ei ailgylchu mewn tair wythnos yn unig.


Datblygwyd y cynllun gan Alan Stephens, Pennaeth Gwasanaethau Ty'r Brifysgol mewn cydweithrediad gyda Chyngor Sir Ceredigion.

“Mae’r wobr yma yn gydnabyddiaeth o’r gwaith gafodd ei wneud gan staff er mwyn sicrhau fod y cynllun hwn yn gweithio, ac ymwybyddiaeth ym mysg y myfyrwyr o’r angen i ailgylchu – maent wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio’r sustem. O fewn pedair wythnos yn unig o osod yr unedau ailgylchu yn eu lle roedd mwy o wastraff cegin yn cael ei anfon mewn bagiau lelog nac mewn bagiau du confensiynol.”

Cafodd y datblygiad gefnogaeth Jenny Mace, Swyddog yr Amgylchedd a Moeseg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

“Mae’r cam hwn yn un i’w groesawi. Mae angen i gynlluniau ailgylchu ystyried natur ddynol ac o’r herwydd mae cyfleustra yn allweddol. Os yw’r cynllun ailgylchu yn un cyfleus mae mwy yn mynd i’w ddefnyddio, rhywbeth sydd yn cael ei adlewyrchu yn llwyddiant y cynllun bagiau lelog.”


Derbyniodd Alan Stephens y Wobr Aberystwyth Gyntaf ar ran y Brifysgol mewn seremoni ddydd Gwener 1 Chwefror.

Llun: Alan Stephens (chwith) Pennaeth Gwasanaethau Ty, a Jim Wallace, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llety gyda’r ‘Tystysgrif Clod Uchel’.